Rheilffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: eu:Burdinbide
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
== Rheilffyrdd Cymru ==
== Rheilffyrdd Cymru ==


Adeiladwyd y rheiffordd gyntaf yng [[Cymru|Nghymru]] yn [[1842]] rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rwydwaith o rheilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn [[1963]], a'r rheilffyrdd bach yn sgîl dirywiad [[diwydiant]]. Erbyn hyn, y tri prif llwybr yn Nghymru fel a ganlyn: [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru]] (o [[Caergybi|Gaergybi]] i [[Caer|Gaer]] a [[Crewe]]), [[Prif Lein y De]] (o [[Abertawe]] i [[Casnewydd|Gasnewydd]] a [[Bryste]]), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i'r [[Amwythig]]. Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys [[Rheilffordd Dyffryn Conwy]] rhwng [[Blaenau Ffestiniog]] a [[Llandudno]] yn y gogledd, [[Rheilffordd Calon Cymru]], [[Rheilffordd y Cambrian]], a [[Rheilffordd Gorllewin Cymru]] o Abertawe i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]], [[Penfro]], [[Aberdaugleddau]] ac [[Abergwaun]].
Adeiladwyd y rheiffordd gyntaf yng [[Cymru|Nghymru]] yn [[1842]] rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rwydwaith o rheilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn [[1963]], a'r rheilffyrdd bach yn sgîl dirywiad [[diwydiant]]. Erbyn hyn, y tri prif llwybr yn Nghymru fel a ganlyn: [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru]] (o [[Caergybi|Gaergybi]] i [[Caer|Gaer]] a [[Crewe]]), [[Prif Lein y De]] (o [[Abertawe]] i [[Casnewydd|Gasnewydd]] a [[Bryste]]), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i [[Amwythig]]. Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys [[Rheilffordd Dyffryn Conwy]] rhwng [[Blaenau Ffestiniog]] a [[Llandudno]] yn y gogledd, [[Rheilffordd Calon Cymru]], [[Rheilffordd y Cambrian]], a [[Rheilffordd Gorllewin Cymru]] o Abertawe i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]], [[Penfro]], [[Aberdaugleddau]] ac [[Abergwaun]].


=== Rheilffyrdd bychain Cymru ===
=== Rheilffyrdd bychain Cymru ===

Fersiwn yn ôl 22:20, 21 Medi 2010

Gorsaf reilffordd Blaenau Ffestiniog

Modd cludo nwyddau neu bobl ar gledrau yw rheilffordd; cledrau o haearn ers y ddeunawfed ganrif, er bod wagenau yn cael eu tynnu gan geffylau ar gledrau pren yn cael eu defnyddio ganrifoedd yn ôl. Daeth rheilffyrdd yn bwysig iawn i gludo glo, haearn a nwyddau eraill yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Y peiriant stêm cyntaf i redeg ar gledrau oedd un Richard Trevithick ar 12 Chwefror 1804. Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion o waith haearn Penydarren Merthyr Tudful mor bell ag Abercynon, ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol iawn. Ni dderbyniwyd y syniad a bu farw yn fethdalwr. Y rheilffordd stêm lwyddiannus gyntaf oedd Rheilffordd Stockton and Darlington. Dilynwyd hon yn fuan gan Rheilffordd Lerpwl a Manceinion gyda pheiriant enwog o'r enw Rocket gan George Stephenson

Rheilffordd ym Mryste

Mae'r rheilffyrdd yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - car, awyren neu llong. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif rheswm dros hyn yw bod llai o ffrithiant rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd.Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r gwrthiant aer. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên ôl troed ecolegol llai, ac yn gyfrannu llai at newid hinsawdd, na thrafnidiaeth ffordd. Er hynny, fe all brisiau uchel arwain at siwrneau lle mae trên yn eithaf wag, gan leihau'r effeithlonrwydd.

Rheilffyrdd Cymru

Adeiladwyd y rheiffordd gyntaf yng Nghymru yn 1842 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rwydwaith o rheilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn 1963, a'r rheilffyrdd bach yn sgîl dirywiad diwydiant. Erbyn hyn, y tri prif llwybr yn Nghymru fel a ganlyn: Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru (o Gaergybi i Gaer a Crewe), Prif Lein y De (o Abertawe i Gasnewydd a Bryste), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i Amwythig. Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno yn y gogledd, Rheilffordd Calon Cymru, Rheilffordd y Cambrian, a Rheilffordd Gorllewin Cymru o Abertawe i Gaerfyrddin, Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun.

Rheilffyrdd bychain Cymru

Mae Cymru yn enwog iawn am ei rheilffyrdd hanesyddol lled cul. Dyma rhai ohonynt: