Tramffordd y Gogarth
| Math | rheilffordd ffwniciwlar, Tram transport |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1902 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3321°N 3.8544°W |
| Cod post | LL30 2NB |
| Rheolir gan | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Tramffordd hanesyddol led 3 troedfedd 6 modfedd[1] ar Ben y Gogarth, Llandudno, gogledd Cymru, yw Tramffordd y Gogarth (Saesneg: Great Orme Tramway). Mae'n rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae rhaid i deithwyr newid i dram arall. Mae'r cerbydau'n cysylltiedig i'r gablen trwy'r amser, felly tramffordd ffwniciwlar yw hi.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Pasiwyd Deddf Tramffyrdd y Gogarth ym 1898 i gludo teithwyr a nwyddau (gan gynnwys eirch i fynwent Eglwys Sant Tudno. Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1901, ac agorwyd hanner is y tramffordd ar 31 Gorffennaf 1902. Agorwyd yr hanner arall ar 8 Gorffennaf 1903. Gwerthwyd y tramffordd i Gwmni Rheilffordd y Gogarth yn dilyn damwain ym 1932. Ailagorwyd y tramffordd ym 1934. Trosglwyddodd perchnogaeth i Gyngor Dosbarth Trefol Llandudno ym 1949. Defnyddiwyd pŵer trydanol yn hytrach na stêm, o 1957 ymlaen. Oherwydd aildrefniant llywodraeth leol, rheolwyd y dramffordd gan Gyngor Sir Aberconwy o 1974, ac o 1977 gan Gyngor Bwrdeistref Conwy.[2]
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Gwefan Videoscene
- ↑ "Tudalen hanes ar wefan y dramffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-23. Cyrchwyd 2016-03-21.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) greatorme.org
- (Saesneg) Hanes
