Rheilffordd Corris

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rheilffordd Corris
Maespoeth.jpeg
Shed locomotifau Cyffordd Maespoeth ar ddechrau'r 1980au, gydag aelodau o Gymdeithas Rheilffordd Corris yn trwsio'r lein
Ardal leol Canolbarth Cymru
Terminws (Gwreiddiol) Machynlleth ac Aberllefenni
(Presennol) Cyffordd Maespoeth a Chorris
Gweithgaredd masnachol
Enw Cwmni Rheilffordd Corris
Adeiladwyd gan Corris, Machynlleth & River Dovey Tramroad
Maint gwreiddiol 2 tr 3 modf (686 mm)
Yr hyn a gadwyd
Gweithredir gan Cwmni Rheilffordd Corris Cyf, cefnogwyd gan Gymdeithas Rheilffordd Corris
Gorsafoedd 2
Hyd 0.75 milltir
Maint 'gauge' 2 tr 3 modf (686 mm)
Hanes (diwydiannol)
1859 Opened (ceffyl)
1879 Newidiwyd i stêm
1883 Dechrau defnyddio stêm ar gyfer cludo teithwyr
1930 Diwedd cludo teithwyr
1948 Ceuwyd
Hanes (Cadwraeth)
1966 Sefydlu Cymdeithas Rheilffordd Corris
1970 Agor Amgueddfa Rheilffordd Corris
1971 Adeiladu'r lein prawf
1981 Prynnu shed Maespoeth
2002 Ailgychwyn cludo teithwyr
2005 Ailgychwyn defnyddio trenau stêm
Map o Reilffordd Corris Railway

Mae Rheilffordd Corris yn rheilffordd 2 droedfedd 3 modfedd o led yn rhedeg o dref Machynlleth tua'r gogledd i Gorris ac ymlaen i Aberllefenni. Roedd canghennau yn gwasanaethu chwareli Corris Uchaf, Aberllefenni, Ratgoed ac ar hyd dyffryn Afon Dulas.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Agorodd y rheilffordd ym 1859 fel "Tramffordd Corris, Machynlleth ac Afon Dyfi", yn cysylltu chwareli llechi Corris, Corris Uchaf ac Aberllefenni ag Afon Dyfi, lle llwythid y llechi i gychod o'r cei yn Nerwenlas a Morben, i'r de-orllewin o Fachynlleth. Ym 1864 newidiwyd yr enw i "Gwmni Rheilffordd Corris" a chaniatawyd trenau ar y rheilffordd. Caewyd y rhan rhwng Machynlleth a Derwenlas pan ddaeth y rheilffordd fawr i gymeryd ei lle. Ym 1878 prynwyd y rheilffordd gan yr Imperial Tramways Company o Lundain a ddechreuodd gario teithwyr a defnyddio trenau stêm. Ym 1887 ymestynnwyd y rheilffordd o Gorris i Aberllefenni.

Gyda chaead chwareli llechi, bu llai o ddefnydd ar y rheilffordd. Rhoddwyd y gorau i gario teithwyr ym 1931 a chaewyd y lein ym 1948.

Injan Rhif 7, yng ngorsaf Corris

Ym 1966 ffurfiwyd Cymdeithas Reilffordd Corris, gyda'r bwriad o ail-agor y lein. Yn ystod y 1980au ail-osodwyd y rheilffordd rhwng Cyffordd Maespoeth a Chorris, tua 1.6 km, a dechreuwyd rhedeg trenau. Yn 2002 ail-ddechreuwyd cario teithwyr. Bwriedir ymestyn y rheilffordd i gyfeiriad Machynlleth.

Loco rhif 1 ym Machynlleth, yn y 1890au.

Y Ffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Map o Reilffordd Corris Railway

Y Gorsafoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Quay Ward - Glanfa ar afon Dyfi ym Morben, a oedd yn brif bwynt trawslwytho i'r dramffordd wreiddiol a gafodd ei chau yn y 1860au.
  • Machynlleth - Y brif bwynt trawslwytho i garreg las a chyfnewidfa gyda Rheilffordd y Cambria.
  • Ffridd Gate
  • Croesiad Doldderwen
  • Lliwdy
  • Llwyngwern
  • Esgairgeiliog
  • Cyffordd Maespoeth - Dim ond i ddefnydd locomotif a cherbyd trên, nid oes gorsaf i'r teithwyr.
  • Corris
  • Garneddwen
  • Aberllefenni

Llinellau lleol a thramffyrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwareli gwasanaethwyd ganddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymdeithas Rheilffordd Corris[golygu | golygu cod y dudalen]

Transportation template.png Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato