Dyffryn Clwyd (cantref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Arglwyddiaeth Rhuthun== |
==Arglwyddiaeth Rhuthun== |
||
Ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] yn 1282-3, cymerodd [[Edward I o Loegr]] feddiant o'r cantref, wedi iddo ddienyddio Dafydd ap Gruffudd yn [[ |
Ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] yn 1282-3, cymerodd [[Edward I o Loegr]] feddiant o'r cantref, wedi iddo ddienyddio Dafydd ap Gruffudd yn [[Amwythig]], a'i roi i'r arglwydd de Grey, ac felly y crëwyd Arglwyddiaeth Rhuthun. Cododd de Grey [[Castell Rhuthun|Gastell Rhuthun]] fel canolfan i reoli'r arglwyddiaeth newydd. Yr anghydfod rhwng ei ddisgynydd [[Reginald Grey]] (neu 'de Grey'), arglwydd Rhuthun, ac [[Owain Glyndŵr]], oedd un o brif achosion gwrthryfel y Cymry yn [[1400]]. |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 22:18, 21 Medi 2010
- Mae hon yn erthygl am y cantref Dyffryn Clwyd: gweler hefyd Dyffryn Clwyd (gwahaniaethu).
Roedd Dyffryn Clwyd yn gantref yn gorwedd yng nghanol y Berfeddwlad mewn ardal sy'n rhan o dde-ddwyrain Sir Ddinbych heddiw.
Ffiniai Dyffryn Clwyd ag Edeirnion a Dinmael yn y de, cantref Rhufoniog yn y gorllewin, Tegeingl yn y gogledd-ddwyrain a chymydau Powys Fadog yn y de-ddwyrain.
Roedd yn gantref pur gyfoethog gan fod cymaint o dir amaeth da yno. Yn gynnar yn yr Oesoedd Canol Dogfeiling oedd ei enw, ar ôl Dogfael neu Dogmael, un o feibion Cunedda. Ond gyda threigliad amser cyfyngid yr enw Dogfeiling i gornel ogleddol y cantref a ddaeth yn un o'i dri chwmwd ynghyd â chymydau Colion a Llannerch yn y de. Rhuthun, yn Nogfeiling, oedd canolfan y cantref. Ceir stryd yn Rhuthun o'r enw 'Lôn Dogfael' (Saesneg; Dog Lane).
Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i esgob Bangor ac roedd y cantref ei hun yn rhan o esgobaeth Bangor tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Roedd ym meddiant Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf, yn nhrydedd chwarter y 13eg ganrif.
Arglwyddiaeth Rhuthun
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-3, cymerodd Edward I o Loegr feddiant o'r cantref, wedi iddo ddienyddio Dafydd ap Gruffudd yn Amwythig, a'i roi i'r arglwydd de Grey, ac felly y crëwyd Arglwyddiaeth Rhuthun. Cododd de Grey Gastell Rhuthun fel canolfan i reoli'r arglwyddiaeth newydd. Yr anghydfod rhwng ei ddisgynydd Reginald Grey (neu 'de Grey'), arglwydd Rhuthun, ac Owain Glyndŵr, oedd un o brif achosion gwrthryfel y Cymry yn 1400.