Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llyfrau'r Dryw"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 10 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
nid barn ond bwriad y gyfres!
(mater o farn a chwaeth bersonol)
(nid barn ond bwriad y gyfres!)
Tŷ cyhoeddi [[Cymraeg]] a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi [[llenyddiaeth Gymraeg|llyfrau Cymraeg]] o'r [[1940au]] hyd y [[1970au]] oedd '''Llyfrau'r Dryw'''.
 
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn [[Llandybie]] yn [[1940]] gan y llenor [[Aneirin Talfan Davies]] a'i frawd [[Alun Talfan Davies]]. Cyfres o lyfrau bach [[llyfr clawr papur|clawr papur]] yn y Gymraeg, dan yr argraffnod ''Llyfrau'r Dryw'', ar bynciau amrywiol oedd man cychwyn y cyhoeddwyr. Eu bwriad oedd 'cyflenwi llyfrau clawr papur rhad i'r [[gwerin|werin]] gan awduron o safon'. Ymhlith yr awduron hynny oedd [[Edward Tegla Davies]], [[Kate Bosse-Griffiths]], [[Sarnicol]], [[R. T. Jenkins]], [[William Ambrose Bebb]], [[T. Gwynn Jones]], [[Thomas Jones]], [[Ifor Williams]], [[Alwyn D. Rees]] ac [[E. Morgan Humphreys]]. Straeon ac ysgrifau ar bynciau amrywiol a geid yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres, gydag ambell eithriad fel casgliad o [[hwiangerdd]]i Cymraeg gan [[Eluned Bebb]]. Chwareai'r llyfrau poblogaidd hyn ran bwysig yn adfywio'r farchnad llyfrau Cymraeg yn y 1950au, pan wynebai argyfwng oherwydd diffyg deunydd darllen poblogaidd.
 
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn [[1952]]. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y [[1950au]] a'r [[1960au]] yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol ''[[Crwydro Cymru]]'', sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol ''[[Barn (cylchgrawn)|Barn]]'', yn Gymraeg, a ''[[Poetry Wales]]'' yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y [[1970au]] a daeth yn rhan o Gwmni [[Christopher Davies]] ([[Abertawe]]), mab [[Alun Talfan Davies]] sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg

Llywio