Ynysoedd Cocos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Baner Ynysoedd Cocos 250px|bawd|Lleoliad Ynysoedd Cocos [[Delwed...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:11, 4 Gorffennaf 2010

Baner Ynysoedd Cocos
Lleoliad Ynysoedd Cocos
Prif ynys

Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor India yw'r Ynysoedd Cocos (hefyd Ynysoedd Keeling) a reolir gan Awstralia fel 'tiriogaeth allanol' wrth yr enw swyddogol Tiriogaeth yr Ynysoedd Cocos (Keeling (Saesneg: Territory of the Cocos (Keeling) Islands). Ceir dau atol a 27 o ynysoedd cwrel yn y grŵp. sy'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Awstralia a Sri Lanka. Y brifddinas yw West Island.

Yn 2010, roedd gan yr ynysoedd boblogaeth o tua 600.[1] Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd llai yn anghyfanedd. Ceir y boblogaeth i gyd bron ar yr atol deheuol lle ceir dwy brif ynys, West Island a Home Island. Mae mwyafrif poblogaeth West Island (tua 100) yn bobl o dras Ewropeaidd a phobl o dras Malay yw'r mwyafrif ar Home Island (tua 500). Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto ond siaredir tafodiaith o'r iaith Malaieg hefyd. Mae 80% o'r ynyswyr, sef y rhai o dras Malay, yn Fwslemiaid Sunni.

Llywodraethir Ynysoedd Cocos gan Llywodraethwr Cyffredinol yn ninas Canberra sy'n llywodraethu Ynys y Nadolig yn ogystal.

Mae'r mwyafrif Malaieg eu hiaith yn teimlo bod llywodraeth Awstralia yn esgeuluso eu hiaith. Dim ond dwy ysgol sydd ar yr ynys. Saesneg yw unig iaith yr ysgolion hyn gwrthodir hawl y plant i siarad tafodiaith Malaieg y Cocos yn yr ysgol, hyd yn oed wrth chwarae.[2]

Cyfeiriadau

  1. CIA World Factbook
  2. Paige Taylor, Crime in paradise lost in translation "The Australian", Awst 17, 2009