Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu rhywfaint
Llinell 5: Llinell 5:


==Hanes==
==Hanes==
Ar ôl i'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]] ffurfio llywodraeth glymblaid [[Cymru'n Un]] yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru [[Paul Murphy]] y gallai'r broses ar gyfer cais gan [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Lywodraeth y Cynulliad]] am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau [[Whitehall]] gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Aelodau Seneddol]] Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7820000/newsid_7829300/7829303.stm |teitl=Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod' |dyddiad=15 Ionawr 2009 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
Ar ôl i'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]] ffurfio llywodraeth glymblaid [[Cymru'n Un]] yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru [[Paul Murphy]] y gallai'r broses ar gyfer cais gan [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Lywodraeth y Cynulliad]] am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau [[llywodraeth y Deyrnas Unedig]] gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Aelodau Seneddol]] Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7820000/newsid_7829300/7829303.stm |teitl=Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod' |dyddiad=15 Ionawr 2009 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
{{eginyn-adran}}
{{eginyn-adran}}



Fersiwn yn ôl 17:30, 7 Mawrth 2010

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfaethedig sy'n bwriadu newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yw Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 (Saesneg: Proposed Welsh Language (Wales) Measure 2010). Bydd y mesur yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a benodir gan y Prif Weinidog, ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[1]

Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[2]

Hanes

Ar ôl i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.[3]    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Proses

Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[4]

Ymateb

"R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd."

Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg[5]

Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am hawliau o'r mesur "fel adeiladu tŷ ar dywod".[6]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Testun y mesur arfaethedig fel y'i cyflwynwyd ar 4 Mawrth