Emyr Humphreys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 37: Llinell 37:


=== Gyrfa broffesiynol ===
=== Gyrfa broffesiynol ===
Aeth ymlaen i astudio hanes ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]].<ref name="HallOfFame" /> Cofrestrodd fel [[gwrthwynebwr cydwybodol]] pan ddechreuodd yr [[Ail Ryfel Byd]] ym [[1939]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/books-in-wales/2009/04/18/emyr-humphreys-final-book-the-woman-at-the-window-91466-23402392/| cyhoeddwr=Wales Online| dyddiad=18 Ebrill 2009| awdur=Steve Dube| teitl=Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window| dyddiadcyrchiad=1 Chwefror 2010}}</ref> Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r [[BBC]] ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]].<ref name="BritishCouncil">{{dyf gwe| url=http://www.contemporarywriters.com/authors/?p=auth5689470C1906a1640DUyJ4055700| cyhoeddwr=[[British Council]]| dyddiadcyrchiad=4 Chwefror 2010| teitl=Emyr Humphreys - Biography}}</ref> Carcharwyd Humphreys dros yr iaith Gymraeg yn ystod yr 1970au.<ref name="Indy" />
Aeth ymlaen i astudio hanes ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]].<ref name="HallOfFame" /> Cofrestrodd fel [[gwrthwynebwr cydwybodol]] pan ddechreuodd yr [[Ail Ryfel Byd]] ym [[1939]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/books-in-wales/2009/04/18/emyr-humphreys-final-book-the-woman-at-the-window-91466-23402392/| cyhoeddwr=Wales Online| dyddiad=18 Ebrill 2009| awdur=Steve Dube| teitl=Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window| dyddiadcyrchiad=1 Chwefror 2010}}</ref> Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r [[BBC]] ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]].<ref name="BritishCouncil">{{dyf gwe| url=http://www.contemporarywriters.com/authors/?p=auth5689470C1906a1640DUyJ4055700| cyhoeddwr=[[British Council]]| dyddiadcyrchiad=4 Chwefror 2010| teitl=Emyr Humphreys - Biography}}</ref> Carcharwyd Humphreys am wrthod talu ei drwydded deledu yn ystod yr 1970au.<ref name="Indy" />


=== Gyrfa lenyddol ===
=== Gyrfa lenyddol ===

Fersiwn yn ôl 07:07, 15 Chwefror 2010

Emyr Humphreys
Delwedd:Emyr Humphreys.jpg
Geni Emyr Humphreys
(1919-04-15) 15 Ebrill 1919 (105 oed)
Trelawnyd, Sir y Fflint
Cenedligrwydd Baner Cymru Cymreig
Addysg Ysgol Uwchradd y Rhyl
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Math o lên Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth
Pynciau Cymru
Gwobrau nodedig Gwobr Somerset Maugham
Gwobr Hawthornden
Llyfr y Flwyddyn (x2)
Gwobr Siân Phillips

Llenor, bardd a nofelydd Cymreig yw Emyr Humphreys (ganwyd 15 Ebrill 1919), mae'n un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[1]

Bywgraffiad

Bywyd cynnar

Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[2] ger Prestatyn, Sir y Fflint, a mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio ym Mhen Llyn gael ei losgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[3][4]

Gyrfa broffesiynol

Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[5] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[6] Carcharwyd Humphreys am wrthod talu ei drwydded deledu yn ystod yr 1970au.[4]

Gyrfa lenyddol

Daeth yn lenor llawn amser ym 1972. Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a cyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[6]

Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[3] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[7][6] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng nghymru. Mae Humphreys yn Gymrawd o'r Gymdeithas Brenhinol Llenyddiaeth[6] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[8]

Disgrifwyd ef gan R.S. Thomas fel the supreme interpreter of Welsh life.[6]

Mae eisioes yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn.[3]

Cyfeiriadau

  1.  Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  2.  A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3  BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  4. 4.0 4.1  Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  5.  Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4  Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
  7.  Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  8.  Writing Wales in English. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.

Dolenni allanol