Emyr Humphreys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) gwybodlen, ehangu |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) llun |

Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen awdur |
{{Gwybodlen awdur |

| delwedd = |
| delwedd = Emyr Humphreys.jpg |

| maintdelwedd = |
| maintdelwedd = 120px |

| enwgeni = Emyr Humphreys |
| enwgeni = Emyr Humphreys |

| ffugenw = |
| ffugenw = |

Llinell 13: | Llinell 13: | ||
| ethnigrwydd = |
| ethnigrwydd = |

| dinasyddiaeth = |
| dinasyddiaeth = |

| addysg = [[Ysgol Uwchradd y Rhyl]]
[[Prifysgol Aberystwyth|Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] |
| addysg = [[Ysgol Uwchradd y Rhyl|Ysgol Uwchradd y Rhyl]]
[[Prifysgol Aberystwyth|Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] |

| cyfnod = |
| cyfnod = |

| math = Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth |
| math = Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth |

Llinell 19: | Llinell 19: | ||
| symudiad = |
| symudiad = |

| gwaithnodedig = |
| gwaithnodedig = |

| gwobrau = [[Gwobr Somerset Maugham]]
[[Gwobr Hawthornden]]
[[Llyfr y Flwyddyn]] (x2)
[[Gwobr Siân Phillips]] |

| gwobrau = |

| priod = |
| priod = |

| cymar = |
| cymar = |
Fersiwn yn ôl 21:35, 12 Chwefror 2010
Emyr Humphreys | |

Delwedd:Emyr Humphreys.jpg | |
Geni | Emyr Humphreys 15 Ebrill 1919 Trelawnydd, Sir y Fflint |
Cenedligrwydd | Cymreig |
Addysg | Ysgol Uwchradd y Rhyl Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Math o lên | Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth |
Pynciau | Cymru |
Gwobrau nodedig | Gwobr Somerset Maugham Gwobr Hawthornden Llyfr y Flwyddyn (x2) Gwobr Siân Phillips |
Llenor, bardd a nofelydd Cymreig yw Emyr Humphreys (ganwyd 15 Ebrill 1919), mae'n un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[1]
Bywgraffiad
Bywyd cynnar
Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[2] ger Prestatyn, Sir y Fflint, a mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio ym Mhen Llyn gael ei losgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[3][4]
Gyrfa broffesiynol
Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[5] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[6] Carcharwyd Humphreys dros yr iaith Gymraeg yn ystod yr 1970au.[4]
Gyrfa lenyddol
Daeth yn lenor llawn amser ym 1972. Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a cyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[6]
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[3] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[7][6] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng nghymru. Mae Humphreys yn Gymrawd o' Gymdeithas Brenhinol Llenyddiaeth.[6]
Disgrifwyd ef gan R.S. Thomas fel the supreme interpreter of Welsh life.[6]
Mae eisioes yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 4.0 4.1 Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
- ↑ Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.