Afon Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwybodlen WD |
|||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
||
}} |
}} |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
Mae '''Afon Clwyd''' yn [[afon]] yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]]. Enwyd yr hen sir [[Clwyd]] ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r [[Dyffryn Clwyd|dyffryn]]. Mae'n llifo o gyffiniau [[Melin y Wig]] i [[aber]]u ym [[Môr Iwerddon]] yn [[Y Foryd]], ger [[Y Rhyl]]. Mae [[Rhuthun]] a [[Llanelwy]] ymhlith y trefi ar lannau'r afon. |

Llinell 11: | Llinell 8: | ||
Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae [[Afon Alyn]] yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref [[Rhuthun]] a'i [[Castell Rhuthun|gastell]] canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys [[Afon Ystrad]] o gyfeiriad [[Nantglyn]] i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i [[Llangynhafal|Langynhafal]] a [[Llandyrnog]], i'r dwyrain, a thref [[Dinbych]] i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae [[Afon Clywedog (Clwyd)|Afon Clywedog]], hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi. |

Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i [[Bodfari|Fodfari]], gyda [[Bryniau Clwyd]] i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig [[Llanelwy]] mae'r [[A55]] yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i [[Afon Elwy]] lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol [[Rhuddlan]] ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r [[Y Foryd|Foryd]], ei haber cysgodlyd ger [[Y Rhyl]], ac yn cyrraedd y môr. |

Fersiwn yn ôl 03:45, 23 Hydref 2018
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0702°N 3.4268°W, 53.0661°N 3.4325°W, 53.3172°N 3.5051°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Afon Elwy, Afon Clywedog (Clwyd), Afon Ystrad, Afon y Maes |
Dalgylch | 900 cilometr sgwâr |
Hyd | 55 cilometr |
Mae Afon Clwyd yn afon yng Ngogledd Cymru. Enwyd yr hen sir Clwyd ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r dyffryn. Mae'n llifo o gyffiniau Melin y Wig i aberu ym Môr Iwerddon yn Y Foryd, ger Y Rhyl. Mae Rhuthun a Llanelwy ymhlith y trefi ar lannau'r afon.
Cwrs
Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, yn ne Sir Ddinbych. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig gonifferaidd Fforest Clocaenog, mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach Bod Petrual ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau Derwen a Llanelidan gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr A494 yn ei chroesi am y tro cyntaf.
Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae Afon Alyn yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol Llanfair Dyffryn Clwyd ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref Rhuthun a'i gastell canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys Afon Ystrad o gyfeiriad Nantglyn i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i Langynhafal a Llandyrnog, i'r dwyrain, a thref Dinbych i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae Afon Clywedog, hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi.
Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i Fodfari, gyda Bryniau Clwyd i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig Llanelwy mae'r A55 yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i Afon Elwy lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol Rhuddlan ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r Foryd, ei haber cysgodlyd ger Y Rhyl, ac yn cyrraedd y môr.