Brwydr Maes Cogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
B Wedi symud Maes Cogwy i Brwydr Maes Cogwy trwy ailgyfeiriad. |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:24, 5 Gorffennaf 2009
Ymladdwyd Maes Cogwy (Brwydr Cogwy, Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mercia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair gyda Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hynny.
Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.
Llyfryddiaeth
- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN: 0-907158-73-0