Canu gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Canu gwerin Cymraeg: enwau grwpiau |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Canu gwerin Cymraeg== |
==Canu gwerin Cymraeg== |
||
{{prif|Canu gwerin Cymraeg}} |
{{prif|Canu gwerin Cymraeg}} |
||
Mae [[Meredydd Evans]], [[Elfed Lewys]], [[Arfon Gwilym]] a [[Lynda Healey]] yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae [[Ar Lôg]] yn grŵp gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn |
Mae [[Meredydd Evans]], [[Elfed Lewys]], [[Arfon Gwilym]] a [[Lynda Healey]] yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae [[Ar Lôg]] yn grŵp gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: [[Clochan]], [[Cilmeri]], [[4 yn y Bâr]], [[Bwchadanas]] a'r [[Hwntws]]. |
||
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan [[Roy Saer]] o [[Sain Ffagan]] ers [[1963]] a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1555/]</ref> |
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan [[Roy Saer]] o [[Sain Ffagan]] ers [[1963]] a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1555/]</ref> |
Fersiwn yn ôl 06:09, 24 Tachwedd 2008
Defnyddir y term canu gwerin fel arfer i olygu caneuon a genir gan y werin, caneuon sy'n perthyn i'r gymuned gyfan ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac sy'n cael eu trosglwyddo ar lafar yn hytrach nag ar bapur. Fel arfer does neb yn gwybod pwy yw awdur/cyfansoddwr cân werin. Mae canu gwerin yn rhan bwysig o ddiwylliant gwerin sawl gwlad, yn cynnwys Cymru. Gellir dosrannu canu gwerin i Ganu gwerin traddodiadol ac i Ganu gwerin modern. Sylwer hefyd fod gwahaniaeth rhwng canu gwerin a chanu gwlad.
Cynhelir sawl gŵyl gerddorol sy'n cynnwys canu gwerin. Un o'r enwocaf yw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, sy'n denu perfformwyr o sawl rhan o'r byd.
Canu gwerin Cymraeg
- Prif: Canu gwerin Cymraeg
Mae Meredydd Evans, Elfed Lewys, Arfon Gwilym a Lynda Healey yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae Ar Lôg yn grŵp gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: Clochan, Cilmeri, 4 yn y Bâr, Bwchadanas a'r Hwntws.
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan Roy Saer o Sain Ffagan ers 1963 a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa[1]
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.[2]