Amgueddfa Glofa Cefn Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: yn y 18fed ganrif → yn y 18g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
* [http://www.neath-porttalbot.gov.uk/default.aspx?page=4964 Gwefan swyddogol] (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
* [http://www.neath-porttalbot.gov.uk/default.aspx?page=4964 Gwefan swyddogol] (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)


[[Categori:Amgueddfeydd Cymru|Glofa Cefn Coed]]
[[Categori:Amgueddfeydd Cymru]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot]]
[[Categori:Diwydiant glo Cymru]]
[[Categori:Diwydiant glo Cymru]]

Fersiwn yn ôl 16:36, 17 Rhagfyr 2017

Amgueddfa Glofa Cefn Coed.
Hen injan yn yr Amgueddfa Lo.

Lleolir Amgueddfa Glofa Cefn Coed (Saesneg: Cefn Coed Colliery Museum) yn Y Creunant ger Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot.

Sefydlwyd glofa Cefn Coed yn y 1920au ond mae hanes mwyngloddio am lo yn ardal Cwm Dulais yn dechrau yn y 18g pan agorodd Syr Herbert Mackworth lofa Onllwyn. Glofa glo carreg oedd Glofa Cefn Coed, a hynny'n lo carreg o'r ansawdd uchaf. Daeth y glo cyntaf i'r wyneb yn 1930. Erbyn 1945 roedd 908 o ddynion yn gweithio yno. Cafodd ei genedlaetholi a dod yn eiddo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol newydd. Daeth cynhyrchu glo i ben yn 1958.

Heddiw mae'r safle yn amgueddfa boblogaidd. Ni cheir mynediad i'r gweithfeydd dan ddaear am eu bod yn rhy beryglus, ond cedwir y rhan fwyaf o'r hen adeiladau a rhai o'r peiriannau mawr ar y safle. Mae ar agor i'r cyhoedd rhwng Ebrill a Hydref; does dim tal mynediad.

Gweler hefyd

Dolenni allanol