Hieronymus Bosch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (3) using AWB |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
==Celf== |
==Celf== |
||
[[ |
[[Delwedd:The Garden of Earthly Delights by Bosch High Resolution.jpg|bawd|450px|''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'' amgeuddfa [[Museo del Prado]], [[Madrid]]]] |
||
Cynhyrchodd Bosch sawl triptych (darlun tri phanel). Yn cynnwys ei enwocaf ''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'' (y teitl gwreiddiol yn anhysbys). Mae'r darlun, yn dangos paradwys gydag [[Adda ac Efa]] a llawer o anifeiliaid anhygoel ar y panel chwith, pleserau'r ddaear gyda phobl noeth, ffrwythau ac adar yn y panel canol, ac wedyn uffern ar y panel chwith gyda delweddau o gosbau erchyll i fathau gwahanol o bechaduriaid. |
Cynhyrchodd Bosch sawl triptych (darlun tri phanel). Yn cynnwys ei enwocaf ''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'' (y teitl gwreiddiol yn anhysbys). Mae'r darlun, yn dangos paradwys gydag [[Adda ac Efa]] a llawer o anifeiliaid anhygoel ar y panel chwith, pleserau'r ddaear gyda phobl noeth, ffrwythau ac adar yn y panel canol, ac wedyn uffern ar y panel chwith gyda delweddau o gosbau erchyll i fathau gwahanol o bechaduriaid. |
||
Llinell 45: | Llinell 45: | ||
Yn yr 20fed ganrif, bu diddordeb newydd yn Bosch a chynigwyd amryw o ddadansoddiadau ar gyfer ei luniau. Rhai yn dadlau bod ei waith wedi'i ysbrydoli gan syniadaeth 'hereticaidd' (e.e. syniadau'r [[Cathariaid]] a oedd yn grefydd Gristionogol y canol oesoedd a welwyd yn 'hereticaidd' gan yr Eglwys Gatholig). Eraill yn dadlau bod pobl tref 's-Hertogenbosch yn yr adeg honno, er yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig, yn wrthwynebau’n gryf dogmatiaeth, llygredigaeth a grym yr offeiriaid. Astudiodd y llenor [[Erasmus]] yn 's-Hertogenbosch ac mae rhai wedi tynnu cymhariaeth rhwng ei feirniadaeth o lygredigaeth yr eglwys a gwaith Bosch.<ref>''The Secret Life of Paintings'' Richard Foster & Pamela Tudor-Craig ISBN 0-85115-439-5</ref> |
Yn yr 20fed ganrif, bu diddordeb newydd yn Bosch a chynigwyd amryw o ddadansoddiadau ar gyfer ei luniau. Rhai yn dadlau bod ei waith wedi'i ysbrydoli gan syniadaeth 'hereticaidd' (e.e. syniadau'r [[Cathariaid]] a oedd yn grefydd Gristionogol y canol oesoedd a welwyd yn 'hereticaidd' gan yr Eglwys Gatholig). Eraill yn dadlau bod pobl tref 's-Hertogenbosch yn yr adeg honno, er yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig, yn wrthwynebau’n gryf dogmatiaeth, llygredigaeth a grym yr offeiriaid. Astudiodd y llenor [[Erasmus]] yn 's-Hertogenbosch ac mae rhai wedi tynnu cymhariaeth rhwng ei feirniadaeth o lygredigaeth yr eglwys a gwaith Bosch.<ref>''The Secret Life of Paintings'' Richard Foster & Pamela Tudor-Craig ISBN 0-85115-439-5</ref> |
||
[[ |
[[Delwedd:The Owl's Nest Bosch.jpg|bawd|''Nith y Dylluan''. Rotterdam, Museum Boijmans Van Beuningen]] |
||
Mae eraill yn dadlau roedd gwaith Bosch yn adloniant, yn diddanu'r gynulleidfa gyd bwystfilod a ffantasi.<ref>Gibson, 9</ref> Tra bod damcaniaeth arall yn credu nad oedd gwaith Bosch yn ffantasi i bobl ei oes, gan adlewyrchu syniadau cyffredin o foesoldeb y byd, nefoedd ac uffern y cyfnod. |
Mae eraill yn dadlau roedd gwaith Bosch yn adloniant, yn diddanu'r gynulleidfa gyd bwystfilod a ffantasi.<ref>Gibson, 9</ref> Tra bod damcaniaeth arall yn credu nad oedd gwaith Bosch yn ffantasi i bobl ei oes, gan adlewyrchu syniadau cyffredin o foesoldeb y byd, nefoedd ac uffern y cyfnod. |
||
[[ |
[[Delwedd:Jheronimus Bosch 006 central panel 03 detail 01.jpg|bawd|Llofnod Bosch wedi'i sillafu ''Jheronimǔs boſch'' o'r triptych ''Y Santau Meudwy'']] |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 08:57, 4 Ionawr 2017
Hieronymus Bosch | |
---|---|
Galwedigaeth | Peintiwr |
Arlunydd Iseldiraidd cynnar oedd Hieronymus Bosch (ganed Jeroen Anthoniszoon van Aken c. 1450 – 9 Awst 1516). Mae ei waith yn enwog am ei ddefnydd o ddelweddau ffantasi er mwyn darlunio cysyniadau a naratifau moesol a chrefyddol.[1]
Mae'r enw Bosch yn dod o'r dref ble y ganwyd a threuliodd y rhan mwyaf o'i fywyd – 's-Hertogenbosch (rhwng Rotterdam ac Eindhoven) a elwir yn Den Bosch ar lafur. Heddiw yn y dref mae cerflun ac amgueddfa iddo.
Gwaith enwocaf Hieronymus Bosch yw Gardd y Pleserau Daearol, sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16eg ganrif (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn amgueddfa Museo del Prado, Madrid.
Bywyd
Ychydig iawn o wybodaeth sydd am fywyd neu hyfforddiant artistig Bosch. Ni adawodd lythyron neu ddyddiaduron, mae'r hyn sydd amdano yn dod o gofnodion 's-Hertogenbosch a llyfrau cofnodion Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid a fu'n sefydliad Cristnogol pwysig yn y dref. Amcangyfrif ei dyddiad geni'n dua 1450 ar sail portread ohono (gall fod yn hunanbortread) a wnaethpwyd cyn ei farwolaeth ym 1515. Mae'r darlun yn ei ddangos yn ei henaint, mwy na thebyg tua 60 oed.[2]
Roedd ei daid Jan van Aken hefyd yn beintiwr a sonnir amdano am y tro cyntaf mewn cofnodion ym 1430. Cafodd Jan bump o feibion, bedwar ohonynt hefyd yn beintwyr. Roedd ei dad, Anthonius van Aken (marw tua 1478), yn gynghorydd artistig i Frawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid.[3]
Cymerir bod ei dad neu un o'i ewythr a dysgodd i beintio [4] Mae Bosch yn ymddangos cyntaf ar gofnodon dinesig ar 5 Ebrill, 1474, ble a enwir gyda dau frawd a chwaer.
Roedd 's-Hertogenbosch yn dref lewyrchus yn y 15fed ganrif ond ym 1463 fe losgwyd 4,000 o dai mewn tân trychinebus pan roedd Bosch tua 13 oed a mwy na thebyg yn dyst i'r digwyddiad erchyll.
Daeth yn beintiwr poblogaidd yn ystod ei fywyd gan dderbyn comisiynau o wledydd tramor. Ym 1488 ymunodd a'r Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid, sefydliad Cristionogol Ceidwadol gyda rhyw 40 o aelodau ymhlith dinasyddion uchel eu parch 's-Hertogenbosch a rhyw o 7,000 aelodau eraill trwy Ewrop cyfan.
Rhywbryd rhwng 1479 a 1481, priododd Bosch Aleyt Goyaerts van den Meerveen, a oedd ychydig o flynyddoedd yn hŷn. Symudodd y cwpl i'r dref gyfagos Oirschot ble roedd ei wraig wedi etifeddu tŷ a thiriodd o'i theulu cyfoethog.[5]
Mae cofnod yn archifau'r Brawdoliaeth yn nodi marwolaeth Bosch ym 1516.[6]
Celf
Cynhyrchodd Bosch sawl triptych (darlun tri phanel). Yn cynnwys ei enwocaf Gardd y Pleserau Daearol (y teitl gwreiddiol yn anhysbys). Mae'r darlun, yn dangos paradwys gydag Adda ac Efa a llawer o anifeiliaid anhygoel ar y panel chwith, pleserau'r ddaear gyda phobl noeth, ffrwythau ac adar yn y panel canol, ac wedyn uffern ar y panel chwith gyda delweddau o gosbau erchyll i fathau gwahanol o bechaduriaid.
Wrth edrych yn nes ar y paneli, gwelir Duw yn creu'r ddaear. Mae'r darluniau – yn arbennig panel uffern – yn cael ei darlunio'n weddol rydd, yn wahanol iawn i arddull peintio Fflandrys y cyfnod.[7]
Ni roddodd Bosch y dyddiad ar ei beintiadau. Ond yn anarferol am y cyfnod fe lofnododd nifer ohonynt (er bod amheuaeth ar sawl llun arall sydd yn ymddangos i gynnwys ei lofnod). Mae llai na 25 o beintiadau sydd wedi'u goroesi a gydnabyddir yn bendant i Bosch. Ar ddiwedd y 16eg ganrif ddaeth nifer o ddarluniau Bosch i feddiant Felipe II, brenin Sbaen, fel canlyniad mae amgueddfa Museo del Prado ym Madrid bellach yn berchen a Gardd y Pleserau Daearol, Addoliad y Doethion, Y Saith Pechod Marwol a'r Pedwar Peth Olaf, Tynnu Carreg Wallgofrwydd (Gwellhad i Ffolineb).
Dadansoddiadau
Yn yr 20fed ganrif, bu diddordeb newydd yn Bosch a chynigwyd amryw o ddadansoddiadau ar gyfer ei luniau. Rhai yn dadlau bod ei waith wedi'i ysbrydoli gan syniadaeth 'hereticaidd' (e.e. syniadau'r Cathariaid a oedd yn grefydd Gristionogol y canol oesoedd a welwyd yn 'hereticaidd' gan yr Eglwys Gatholig). Eraill yn dadlau bod pobl tref 's-Hertogenbosch yn yr adeg honno, er yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig, yn wrthwynebau’n gryf dogmatiaeth, llygredigaeth a grym yr offeiriaid. Astudiodd y llenor Erasmus yn 's-Hertogenbosch ac mae rhai wedi tynnu cymhariaeth rhwng ei feirniadaeth o lygredigaeth yr eglwys a gwaith Bosch.[8]
Mae eraill yn dadlau roedd gwaith Bosch yn adloniant, yn diddanu'r gynulleidfa gyd bwystfilod a ffantasi.[9] Tra bod damcaniaeth arall yn credu nad oedd gwaith Bosch yn ffantasi i bobl ei oes, gan adlewyrchu syniadau cyffredin o foesoldeb y byd, nefoedd ac uffern y cyfnod.
Cyfeiriadau
- ↑ Catherine B. Scallen, The Art of the Northern Renaissance (Chantilly: The Teaching Company, 2007) Lecture 26
- ↑ Gibson, 15-16
- ↑ Gibson, 15, 17
- ↑ Gibson, 19
- ↑ Valery, Paul. "The Phase of Doubt, A Critical Reflection".
- ↑ Gibson, 18
- ↑ [1]'Bosch and the Delights of Hell'
- ↑ The Secret Life of Paintings Richard Foster & Pamela Tudor-Craig ISBN 0-85115-439-5
- ↑ Gibson, 9
- Bax, Dirk. (1949), “Ontcijfering van Jeroen Bosch”. Den Haag.
- Boulboullé, Guido, (2008), "Groteske Angst. Die Höllenphantasien des Hieronymus Bosch". In: Auffarth, Christoph, and Kerth, Sonja (Eds): "Glaubensstreit und Gelächter: Reformation und Lachkultur im Mittelalter und in der Frühen Neuzeit", LIT Verlag Berlin, pp. 55–78.
- Dijck, G.C.M. van (2001). “Op zoek naar Jheronimus van Aken alias Bosch. De feiten. Familie, vrienden en opdrachtgevers”. Zaltbommel: Europese Bibliotheek. ISBN 90-288-2687-4
- Fischer, Stefan. "Hieronymus Bosch. The Complete Works", Cologne 2013.
- Gibson, Walter S (1973). “Hieronymus Bosch”. New York: Thames and Hudson. ISBN 0-500-20134-X
- Koldeweij, Jos & Bernard Vermet & Barbera van Kooij: Hieronymus Bosch. New Insights Into His Life and Work, NAi Publishers, Rotterdam 2001. ISBN 90-5662-214-5
- Marijnissen, Roger H. ([1987]). “Hiëronymus Bosch. Het volledige oeuvre”. Haarlem: Gottmer/Brecht. ISBN 90-230-0651-8
- Pokorny, Erwin (2010), "Hieronymus Bosch und das Paradies der Wollust". In: "Frühneuzeit-Info", Jg. 21, Heft 1+2 (Sonderband „Die Sieben Todsünden in der Frühen Neuzeit“), pp. 22–34.