Jwrasig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
del a gh
B Symudwyd y dudalen Jurasig i Jwrasig gan Llywelyn2000 dros y ddolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:44, 21 Awst 2016

Cyfnod Jwrasig
199.6–145.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 26 Cyfaint %[1]
(130 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 1950 rhan / miliwn[2]
(7 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 16.5 °C[3]
(3 °C uwch na'r lefel heddiw)


Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.

Cyfnod daearegol yw'r Jurasig[4] sy'n ymestyn o 201.3± 0.6 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at 145± 4;[5] sef o ddiwedd y cyfnod Triasig i gychwyn y cyfnod Cretasaidd. Dyma felly y cyfnod a adnabyddir fel canol yr Era Mesosöig (neu 'Oes yr Ymlusgiaid'.

Nodir cychwyn y cyfnod Jurasig gan y digwyddiad difodiant Triasig-Jurasig anferthol (Saesneg: Triassic–Jurassic extinction event). Bu dau ddigwyddiad pwysig arall yn ystod y cyfnod hwn:

  • y Pliensbachian / Toarcian ar ddechrau'r Triasig a'r
  • Tithonian Hwyr ar ei ddiwedd.

Fodd bynnag, nid yw'r naill na'r llall yn cael eu rhestru ar "Restr y Pum Difodiant Mawr".

Enwir y Jurasig ar ôl mynyddoedd y Jura, yn yr Alpau, ble adnabuwyd strata calch o'r cyfnod hwn.

Ar ddechrau'r Jurasig, dechreuodd yr uwch-gyfandir Pangaea ymranu'n ddwy ran: Laurasia i'r gogledd a Godwana i'r de. Oherwydd cynnydd yn yr arfordir ar y blaned, trodd yr hinsawdd o un sych i un gwlyb a llaith, a throdd sawl anialwch cras a diffaith yn fforestydd glaw gwyrddlas a llawn bywyd. Daeth y deinosor i ddominyddu'r Ddaear ac ymddangosodd yr aderyn cyntaf yn ystod y Jurasic o gangen tacsonomegol o'r deinosor theropod.

Ymhlith digwyddiadau mawr eraill roedd ymddangosoad y cena goeg (neu'r 'madfall') ac esblygodd y crocodeil o fyw ar y ddaear i fyw mewn dŵr. Yn y môr, roedd yr ichthyosaur a'r plesiosaur ac yn yr awyr, esblygodd y pterosaur.

Ffawna

Rhywogaethau morwrol a dyfrol

Rhywogaethau ar y tir

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. Geiriadur yr Academi arlein; adalwyd 7 Chwefror 2016
  5. Vennari, Verónica V.; Lescano, Marina; Naipauer, Maximiliano; Aguirre-Urreta, Beatriz; Concheyro, Andrea; Schaltegger, Urs; Armstrong, Richard; Pimentel, Marcio et al. (2014). "New constraints on the Jurassic–Cretaceous boundary in the High Andes using high-precision U–Pb data". Gondwana Research 26: 374–385. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1342937X13002323. Adalwyd 16 January 2016.