Charles Stanton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Tacluso iaith |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Ar ôl ymadael a'r ysgol aeth Stanton i weithio fel gwas bach mewn tŷ bonedd ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen y bont ar Ogwr]], ond dychwelodd yn ddiweddarach i Aberaman i weithio mewn glofa. Yn fuan iawn yn ei yrfa daeth yn amlwg fel gweithiwr milwriaethus. |
Ar ôl ymadael a'r ysgol aeth Stanton i weithio fel gwas bach mewn tŷ bonedd ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen y bont ar Ogwr]], ond dychwelodd yn ddiweddarach i Aberaman i weithio mewn glofa. Yn fuan iawn yn ei yrfa daeth yn amlwg fel gweithiwr milwriaethus. |
||
Ym 1893 wrth gefnogi streic gan lowyr tan ddaear yn Aberaman fe'i cyhuddwyd o saethu dryll at heddwas a chafodd ei garcharu am 6 mis am fod a gwn heb drwydded yn ei feddiant<ref>THE REVOLVER FIRING AT ABERAMAN; Weekly Mail 16 Medi 1893 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3368679/ART64] adalwyd 24 Rhagfyr 2014</ref> Bu yn |
Ym 1893 wrth gefnogi streic gan lowyr tan ddaear yn Aberaman fe'i cyhuddwyd o saethu dryll at heddwas a chafodd ei garcharu am 6 mis am fod a gwn heb drwydded yn ei feddiant<ref>THE REVOLVER FIRING AT ABERAMAN; Weekly Mail 16 Medi 1893 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3368679/ART64] adalwyd 24 Rhagfyr 2014</ref> Bu yn chwarae rhan yn streic y glowyr 1898. Ar ôl i'r streic fethu aeth i weithio ar ddociau Llundain lle bu yn rhan o streic y docwyr ym 1898. |
||
Ym 1899 dychwelodd i Gymru a chael ei ethol yn asiant Ffederasiwn y Glowyr yn Aberdâr. |
Ym 1899 dychwelodd i Gymru a chael ei ethol yn asiant Ffederasiwn y Glowyr yn Aberdâr. |
||
==Gyrfa Gwleidyddol== |
==Gyrfa Gwleidyddol== |
||
Yr oedd Stanton yn cyfrif ei hun yn Sosialydd Chwyldroadol ac yn gefnogol i'r rhyfel dosbarth. Ym 1890 daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Aberdâr ac yr oedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP). Ym 1903 cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr gan |
Yr oedd Stanton yn cyfrif ei hun yn Sosialydd Chwyldroadol ac yn gefnogol i'r rhyfel dosbarth. Ym 1890 daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Aberdâr ac yr oedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP). Ym 1903 cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr gan ddal gafael ar ei sedd ar y cyngor hyd 1908. |
||
Yn [[Etholiad |
Yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig,Rhagfyr 1910| etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910]] fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)|Dwyrain Morgannwg]]. Penderfynodd Ffederasiwn y Glowyr i beidio cefnogi ei ymgeisyddiaeth gan roi eu cefnogaeth i'r Undebwr Llafur amlwg [[Allen Clement Edwards]] yr ymgeisydd [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]]. Edwards fu'r ymgeisydd llwyddiannus |
||
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Stanton yn gefnogwr brwd i achos y rhyfel; ac yn feirniad llafar iawn yn erbyn Sosialwyr megis [[Keir Hardy]] arweinydd y Blaid Lafur a oedd yn mynegi amheuon am gyfiawnder y rhyfel. Roedd hefyd yn groch yn erbyn unrhyw aelod o'r Blaid Lafur oedd yn coleddu achos [[Heddychiaeth|heddychiaeth]]. |
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Stanton yn gefnogwr brwd i achos y rhyfel; ac yn feirniad llafar iawn yn erbyn Sosialwyr megis [[Keir Hardy]] arweinydd y Blaid Lafur a oedd yn mynegi amheuon am gyfiawnder y rhyfel. Roedd hefyd yn groch yn erbyn unrhyw aelod o'r Blaid Lafur oedd yn coleddu achos [[Heddychiaeth|heddychiaeth]]. |
||
Ym 1915 bu farw Keir Hardy, un o'r Aelodau Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr, a chynhaliwyd |
Ym 1915 bu farw Keir Hardy, un o'r Aelodau Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr, a chynhaliwyd is-etholiad. Dewisodd y Blaid Lafur [[James Winstone]] i sefyll fel eu hymgeisydd swyddogol; penderfynodd Stanton i'w herio fel ymgeisydd Llafur annibynnol. Sail ymgyrch Stanton oedd ei gefnogaeth i'r rhyfel a'i honiad bod Winstone yn llugoer i'r rhyfel, yn anwlatgarol, ac yn fradwrus (cyhuddiad gwbl ddi-sail). O achos y cytundeb rhwng y pleidiau eraill i beidio herio ei gilydd yn ystod cyfnod y rhyfel doedd dim ymgeiswyr gan y Rhyddfrydwyr na'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadwyr]] er bod nifer o Ryddfrydwyr blaenllaw wedi mynegi eu cefnogaeth i Stanton. Enillodd Stanton y sedd gyda mwyafrif mawr. |
||
Diddymwyd etholaeth Bwrdeistref Merthyr ar gyfer [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|etholiad cyffredinol 1918]] a safodd Stanton yn enw [[Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur]]; plaid sosialaidd oedd yn cefnogi'r Rhyfel ac am i Lywodraeth y Glymblaid parhau hyd derfyn y trefniadau heddwch, yn groes i benderfyniad y Blaid Lafur swyddogol i dynnu allan o'r glymblaid. Enillodd Stanton y sedd yn gyffyrddus yn erbyn yr ymgeisydd Llafur a'r Heddychwr [[Niclas y Glais]]. |
Diddymwyd etholaeth Bwrdeistref Merthyr ar gyfer [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|etholiad cyffredinol 1918]] a safodd Stanton yn enw [[Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur]]; plaid sosialaidd oedd yn cefnogi'r Rhyfel ac am i Lywodraeth y Glymblaid parhau hyd derfyn y trefniadau heddwch, yn groes i benderfyniad y Blaid Lafur swyddogol i dynnu allan o'r glymblaid. Enillodd Stanton y sedd yn gyffyrddus yn erbyn yr ymgeisydd Llafur a'r Heddychwr [[Niclas y Glais]]. |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
==Bywyd diweddarach== |
==Bywyd diweddarach== |
||
Ar ôl |
Ar ôl colli ei sedd yn Aberdâr daeth gyrfa wleidyddol Stanton i ben. Prynodd dŷ tafarn yn Llundain. Yn ogystal â rhedeg ei dafarn bu Stanton hefyd yn chwarae'r fiolín fel cerddor lled broffesiynol a gan chwarae rhannau bach fel actor mewn ffilmiau.<ref>STANTON , CHARLES BUTT; y Bywgraffiadur ar lein [http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-STAN-BUT-1873.html] adalwyd 24 Rhagfyr 2014</ref> |
||
Bu farw ym 1946 a chafodd ei gorff ei losgi yn amlosgfa Golders Green. |
Bu farw ym 1946 a chafodd ei gorff ei losgi yn amlosgfa Golders Green. |
Fersiwn yn ôl 16:15, 24 Rhagfyr 2014
Roedd Charles Butt Stanton (7 Ebrill, 1873 – 6 Rhagfyr, 1946.) yn wleidydd Llafur Cymreig, yn Undebwr Llafur ac yn Aelod Seneddol dros etholaethau Bwrdeistref Merthyr ac Aberdâr ac yn actor.[1]
Bywyd Personol
Ganwyd Stanton yn Aberaman ym 1873, yn fab i Thomas a Harriet Stanton
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Brydeinig Aberaman
Priododd ag Alice Maud Thomas ym 1893. Bu iddynt ddau fab, a lladdwyd un, Clifford yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917.[2]
Gyrfa
Ar ôl ymadael a'r ysgol aeth Stanton i weithio fel gwas bach mewn tŷ bonedd ym Mhen y bont ar Ogwr, ond dychwelodd yn ddiweddarach i Aberaman i weithio mewn glofa. Yn fuan iawn yn ei yrfa daeth yn amlwg fel gweithiwr milwriaethus.
Ym 1893 wrth gefnogi streic gan lowyr tan ddaear yn Aberaman fe'i cyhuddwyd o saethu dryll at heddwas a chafodd ei garcharu am 6 mis am fod a gwn heb drwydded yn ei feddiant[3] Bu yn chwarae rhan yn streic y glowyr 1898. Ar ôl i'r streic fethu aeth i weithio ar ddociau Llundain lle bu yn rhan o streic y docwyr ym 1898. Ym 1899 dychwelodd i Gymru a chael ei ethol yn asiant Ffederasiwn y Glowyr yn Aberdâr.
Gyrfa Gwleidyddol
Yr oedd Stanton yn cyfrif ei hun yn Sosialydd Chwyldroadol ac yn gefnogol i'r rhyfel dosbarth. Ym 1890 daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Aberdâr ac yr oedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP). Ym 1903 cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr gan ddal gafael ar ei sedd ar y cyngor hyd 1908. Yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910 fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Dwyrain Morgannwg. Penderfynodd Ffederasiwn y Glowyr i beidio cefnogi ei ymgeisyddiaeth gan roi eu cefnogaeth i'r Undebwr Llafur amlwg Allen Clement Edwards yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Edwards fu'r ymgeisydd llwyddiannus
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Stanton yn gefnogwr brwd i achos y rhyfel; ac yn feirniad llafar iawn yn erbyn Sosialwyr megis Keir Hardy arweinydd y Blaid Lafur a oedd yn mynegi amheuon am gyfiawnder y rhyfel. Roedd hefyd yn groch yn erbyn unrhyw aelod o'r Blaid Lafur oedd yn coleddu achos heddychiaeth.
Ym 1915 bu farw Keir Hardy, un o'r Aelodau Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr, a chynhaliwyd is-etholiad. Dewisodd y Blaid Lafur James Winstone i sefyll fel eu hymgeisydd swyddogol; penderfynodd Stanton i'w herio fel ymgeisydd Llafur annibynnol. Sail ymgyrch Stanton oedd ei gefnogaeth i'r rhyfel a'i honiad bod Winstone yn llugoer i'r rhyfel, yn anwlatgarol, ac yn fradwrus (cyhuddiad gwbl ddi-sail). O achos y cytundeb rhwng y pleidiau eraill i beidio herio ei gilydd yn ystod cyfnod y rhyfel doedd dim ymgeiswyr gan y Rhyddfrydwyr na'r Ceidwadwyr er bod nifer o Ryddfrydwyr blaenllaw wedi mynegi eu cefnogaeth i Stanton. Enillodd Stanton y sedd gyda mwyafrif mawr.
Diddymwyd etholaeth Bwrdeistref Merthyr ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 a safodd Stanton yn enw Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur; plaid sosialaidd oedd yn cefnogi'r Rhyfel ac am i Lywodraeth y Glymblaid parhau hyd derfyn y trefniadau heddwch, yn groes i benderfyniad y Blaid Lafur swyddogol i dynnu allan o'r glymblaid. Enillodd Stanton y sedd yn gyffyrddus yn erbyn yr ymgeisydd Llafur a'r Heddychwr Niclas y Glais.
Yn etholiad 1922 ceisiodd Stanton amddiffyn sedd Aberdâr fel ymgeisydd Rhyddfrydol Cenedlaethol ond gan ei drechu gan George Henry Hall yr ymgeisydd Llafur.
Bywyd diweddarach
Ar ôl colli ei sedd yn Aberdâr daeth gyrfa wleidyddol Stanton i ben. Prynodd dŷ tafarn yn Llundain. Yn ogystal â rhedeg ei dafarn bu Stanton hefyd yn chwarae'r fiolín fel cerddor lled broffesiynol a gan chwarae rhannau bach fel actor mewn ffilmiau.[4]
Bu farw ym 1946 a chafodd ei gorff ei losgi yn amlosgfa Golders Green.
Cyfeiriadau
- ↑ CHARLES BUTT STANTON, 1873–1946, Ivor T Rees Cylchgrawn ar lein LLGC 26 Meh 2012 [1] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ Aberdare Boys’ Grammar School Past Student Association History[2] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ THE REVOLVER FIRING AT ABERAMAN; Weekly Mail 16 Medi 1893 [3] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ STANTON , CHARLES BUTT; y Bywgraffiadur ar lein [4] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Keir Hardy |
Aelod Seneddol dros ,Bwrdeistref Merthyr Tudful 1915 – 1918 |
Olynydd: didymu'r sedd |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Aberdâr 1918 – 1922 |
Olynydd: George Hall |