George Henry Hall

Oddi ar Wicipedia
George Henry Hall
Ganwyd31 Rhagfyr 1881 Edit this on Wikidata
Penrhiw-ceibr Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Prif Arglwydd y Morlys Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PlantWilliam Hall Edit this on Wikidata

Roedd George Henry Hall, is-iarll 1af Hall o Gwm Cynon (31 Rhagfyr 18818 Tachwedd 1965) yn wleidydd Llafur Cymreig, yn Aelod Seneddol dros Aberdâr ac yn aelod o lywodraethau Llafur a Llywodraeth y glymblaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd George Hall ym 1881 ym Mhenrhiwceibr yn fab i George Hall, glöwr a Ann (née Guard) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Elfennol Penrhiwceibr gan ymadael a'r ysgol yn 12eng mlwydd oed.

Bu'n briod ddwywaith: ei wraig gyntaf oedd Margaret ferch William Jones; bu iddynt briodi ym 1910 a bu hi farw ym 1941. Cawsant ddau fab. Priododd Alice Martha Walker ei ail wraig ym 1964.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r ysgol aeth i weithio fel mwynwr ym mhwll glo Penrhiwceibr gan weithio ar y ffas hyd 1911 pan gafodd ei godi yn bwyswr ac yn gynrychiolydd i Ffederasiwn Glowyr De Cymru

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1908 cafodd ei ethol yn aelod Llafur o Gyngor Dosbarth Aberpennar gan dal gafael ar ei sedd hyd 1926.

Yn Etholiad cyffredinol 1922 safodd fel ymgeisydd seneddol Llafur yn etholaeth Aberdâr gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth yr Aelod Blaenorol Charles Stanton. Cadwodd y sedd hyd 1946 pan gafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi.

Gwasanaethodd fel Arglwydd Sifil y Morlys o 1929 i 1931 yn llywodraeth Ramsay MacDonald. Bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1940 i 1942, yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1940 i 1942, yn Ysgrifennydd Ariannol i'r Morlys o 1942 i 1943 ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor o 1943 i 1945 yn llywodraeth clymblaid Winston Churchill. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau 1945-1946 yn Llywodraeth Lafur Clement Attlee.

Fe gafodd ei urddo'n aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1942 ac ar ôl ymddeol o Dŷ'r Cyffredin ym 1946 cafodd ei ddyrchafu yn Is Iarll Hall, o Gwm Cynon yn Sir Forgannwg, gan wasanaeth fel Prif Arglwydd y Morlys yn llywodraeth Attlee o 1946 i 1951 ac yn Ddirprwy Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi o 1947 i 1951 ac yn ddirprwy arweinydd yr Arglwyddi Llafur o 1951 i 1953. Oherwydd iechyd bregus rhoddodd y gorau i fod yn Arglwydd gweithredol ym 1953.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghaerlŷr ym 1965. Daeth ei fab William yn ail Is-Iarll Hall.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. HALL, GEORGE HENRY yn Y bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Stanton
Aelod Seneddol dros Aberdâr
19221946
Olynydd:
David Emlyn Thomas