David Emlyn Thomas

Oddi ar Wicipedia
David Emlyn Thomas
Ganwyd16 Medi 1892, 1892 Edit this on Wikidata
Maesteg Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mehefin 1954 Edit this on Wikidata
Trecynon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd David Emlyn Thomas (16 Medi 189220 Mehefin 1954) yn wleidydd Prydeinig. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur dros Aberdâr o 1946 hyd 1954. Ef oedd y cyn glöwr olaf i gynrychioli'r etholaeth.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd Thomas ei eni ym Maesteg yn un o ddeg o blant James Thomas a Mary ei wraig. Roedd y teulu yn hanu o Ddyfed y tad o Gilgerran a'r fam o Gastellnewydd Emlyn.[1]

Dychwelodd y teulu am gyfnod i Aberteifi a Chilgerran lle derbyniodd Thomas ei addysg gynnar. Yn ddiweddarach dychwelodd y teulu i Faesteg a bu Thomas yn mynychu'r ysgol yno am gyfnod. Ymadawodd a'r ysgol yn 13 oed i weithio ym mhwll glo'r Oakwood fel clerc. Wrth weithio yn y maes glo fu'n mynychu dosbarthiadau nos i ddysgu teipio a llaw-fer.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1919 penodwyd Thomas yn swyddog llawn amser yn swyddfa Ffederasiwn Glowyr De Cymru ym Maesteg o dan Vernon Hartshorn, AS ac Evan Williams, YH. Ymunodd Thomas â'r Blaid Lafur ym 1919 ac roedd yn ysgrifennydd pwyllgor ward y Blaid Lafur ym Maesteg.

Pan gaewyd swyddfa Ffederasiwn Glowyr De Cymru Maesteg ym 1934 cafodd Thomas ei drosglwyddo i weithio yn Swyddfa'r Ffederasiwn yn Aberdâr fel Ysgrifennydd Ardal. Bu hefyd yn cyflawni dyletswyddau Asiant y Glowyr, Noah Ablett, a oedd yn ddifrifol wael. Ar farwolaeth Ablett, cafodd Thomas ei ethol yn Asiant y Glowyr, gan barhau yn y swydd hyd 1946.

Y tu allan i'r lle gwaith yr oedd Thomas yn aelod gweithgar ac yn ddiacon yng Nghapel Annibynnol Ebeneser, Trecynon.[3]

Gyrfa Seneddol[golygu | golygu cod]

Ym 1946 cafodd George Henry Hall AS Aberdâr ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi a dewiswyd Thomas i sefyll fel yr ymgeisydd Llafur yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, enillodd y sedd gyda mwyafrif mawr a llwyddodd i ddal gafael ar y sedd hyd ei farwolaeth ym 1954.

Roedd yn aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin, ac ym 1949-50 bu'n arweinydd y Grŵp Seneddol Llafur Cymreig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14; Darn: 32538; Rhif: 98. 2 Ward Street Maesteg
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein THOMAS, DAVID EMLYN http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-THOM-EML-1892.html adalwyd 13 Rhag 2014
  3. Jones, Alan Vernon (2004). Chapels of the Cynon Valley. Cynon Valley Historical Society. ISBN 0953107612
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Henry Hall
Aelod Seneddol dros Aberdâr
19461954
Olynydd:
Arthur Probert