Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu a refs
B delwedd o grwth Sain Ffagan
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant - tri yn y fersiynau cynnar. Caiff ei gannu a genir â [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren â'r rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, ac mae cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a cherddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''Chrotta'', ''Hrotta''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant - tri yn y fersiynau cynnar. Caiff ei gannu a genir â [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren â'r rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, ac mae cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a cherddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.


Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython]]aidd cynnar. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython]]aidd cynnar. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].


== Y Crwth yng Nghymru ==
== Y Crwth yng Nghymru ==
[[Delwedd:1-ac-crwth Sain Ffagan.jpg|bawd|chwith|Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
Goroesodd pedwar crwth:
Goroesodd pedwar crwth:
# [[Sain Ffagan]]: Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o [[Llanfihangel Bachellaeth|Lanfihangel Bachellaeth]], Sir Gaernarfon
# [[Sain Ffagan]]: Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o [[Llanfihangel Bachellaeth|Lanfihangel Bachellaeth]], Sir Gaernarfon
# Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Dafydd Tudur, [[Dolgellau]] o'r 19fed ganrif<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Delwedd o grwth Owain Tudur, Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd</ref>
# Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Dafydd Tudur, [[Dolgellau]] o'r 19fed ganrif<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Delwedd o grwth Owain Tudur, Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd</ref>
# Crwth Aberystwyth: mae hwn yn y [[Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]]
# Crwth Aberystwyth: mae hwn yn y [[Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]]
# Crwth Warrington: fe'i cedwir yn [[Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington]].
# Crwth Warrington: fe'i cedwir yn [[Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington]]. Mae hwn mewn cyflwr salach na'r tri arall, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.


==Cyfeiriadau llenyddol==
==Cyfeiriadau llenyddol==

Fersiwn yn ôl 12:59, 18 Ebrill 2013

Crythor yn chwarae'r crwth. Beibl Siarl Foel, 9fed ganrif.
Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.
Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.

Hen offeryn cerdd llinyddol ydy'r crwth, (Lladin Llafar: chrotha, Saesneg: crowd; Almaeneg: Chrotta, Hrotta). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r fiolin), ond fod ganddo fel arfer chwe thant - tri yn y fersiynau cynnar. Caiff ei gannu a genir â bwa ac mae ganddo ffrâm betrual, bren â'r rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12fed ganrif.[1] Cyfeiria'r cyfreithiau at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn Eisteddfod yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, ac mae cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a cherddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r saer wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.

Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19eg ganrif.

Y Crwth yng Nghymru

Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.

Goroesodd pedwar crwth:

  1. Sain Ffagan: Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon
  2. Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Dafydd Tudur, Dolgellau o'r 19fed ganrif[2]
  3. Crwth Aberystwyth: mae hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth
  4. Crwth Warrington: fe'i cedwir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. Mae hwn mewn cyflwr salach na'r tri arall, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.

Cyfeiriadau llenyddol

Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489):

Pob ddau y glêr a ddeuyn',
pob dri fry i dŷ pob dyn;
wrth y drws un â'i grwth drwg,
a baw arall â'i berrwg.[3]

Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw:

Y crwth hwn, croyw a thyner
Y gwnâi ei was pynciau pêr
Ac weithian mewn cwynfan cawdd
Y felysgerdd a floesgawdd.[4]

Ceir sawl chwedl werin am 'Crythor Du' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth adalwyd 18/04/2013
  2. [http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Delwedd o grwth Owain Tudur, Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd
  3. Gwaith Lewys Glyn Cothi, 63.25-8.
  4. Traddodiad Cerdd Dant ym Môn.

Ffynonellau

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
  • Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
  • Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).