Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
refs |
|||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
===Y diwrnod cyntaf=== |
===Y diwrnod cyntaf=== |
||
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger [[Llandeilo Fawr]]. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd [[Stephen Bauzan]] ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. [http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] Welsh Battlefields</ref> |
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger [[Llandeilo Fawr]]. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd [[Stephen Bauzan]] ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. <ref>[http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] Welsh Battlefields</ref> |
||
===Yr ail ddiwrnod=== |
===Yr ail ddiwrnod=== |
Fersiwn yn ôl 05:19, 3 Ionawr 2013
Mae Brwydr Coed Llathen (neu Frwydr Cymerau) yn cael ei chyfrif yn un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru: brwydr ydoedd a gynhaliwyd yn 1257 pan laddodd byddin Llywelyn ap Gruffudd dros 3,000 o Saeson yng Nyffryn Tywi. Roedd y frwydr mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen a'r ail yng Nghymerau ger Llandeilo.
Y Cefndir
Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r Deheubarth gan gynnwys Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw yn anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth Rhys Fychan a oedd yn deyrngar i Harri III, Brenin Lloegr. Roedd ei fab, sef y Tywysog Edward wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei wrthwynebu.[1] Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr a rhai o Gasgwyn.[2]
Paratoi am ryfel
Erbyn 29 Mai 1257 roedd llynges Saesnig wedi glanio yng Nghaerfyrddin a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad Llandeilo, drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai Castell Dinefwr yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan. [3]
Y Frwydr
Y diwrnod cyntaf
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger Llandeilo Fawr. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd Stephen Bauzan ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. [4]
Yr ail ddiwrnod
Brwydr Coed Llathen
Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen. [5]
Brwydr Cymerau
Roedd ysbryd y fyddin Saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a chorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin Saesnig fel ieir am eu bywydau. [6]
Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.[7]
Wedi'r storm...
Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.
Erbyn 1258 roedd y Berfeddwlad a'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ [1] a40infobahn.co.uk
- ↑ Marc Morris A Great and Terrible King, Edward I and the Forging of Britain, tudalen 32
- ↑ [2] Ancestry.com
- ↑ [3] Welsh Battlefields
- ↑ [4]
- ↑ 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC
- ↑ 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 582.