Hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
manion |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term ''gay'' yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. ''that's so gay'' ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.<ref>Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar [[maes-e]] o ''hoyw'' fel gair sarhaus. [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=28&t=19652&p=294819]</ref> |
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term ''gay'' yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. ''that's so gay'' ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.<ref>Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar [[maes-e]] o ''hoyw'' fel gair sarhaus. [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=28&t=19652&p=294819]</ref> |
||
== Gweler hefyd == |
|||
* ''[[Gay-for-pay]]'' |
|||
Mae gan Hwngari sin [[hoyw]] cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym [[Prag|Mhrag]] lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu. |
|||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
||
{{cyfeiriadau}} |
|||
<div class="references-small"><references /></div> |
|||
⚫ | |||
{{LHDT}} |
{{LHDT}} |
||
Llinell 23: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Geirfa LHDT]] |
[[Categori:Geirfa LHDT]] |
||
[[Categori:Geiriau ac ymadroddion Cymraeg]] |
[[Categori:Geiriau ac ymadroddion Cymraeg]] |
||
⚫ | |||
[[af:Gay]] |
[[af:Gay]] |
Fersiwn yn ôl 01:36, 5 Gorffennaf 2011
- Mae'r dudalen hon am y gair "hoyw". Am wybodaeth am y cyfeiriadedd rhywiol gweler cyfunrywioldeb.
Ansoddair Cymraeg yw hoyw sydd, yn draddodiadol, yn golygu sionc neu bywiog, ond sydd yn aml mewn defnydd cyfoes yn cael ei ddefnyddio fel y term anffurfiol am gyfunrywiol.
Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu hapus, llon, sionc, bywiog neu diofal.[1] Mae gan hoyw yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o darddeiriau, yn cynnwys hoywad (addurniad neu daclusiad), hoywi (i wneud rhywbeth yn hoyw), hoywaidd (bron yn gyfystyr â hoyw), hoywder (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o gyfansoddeiriau megis hoywdon, hoywfro a hoyw-wyrdd.[2]
Yn yr ugeinfed ganrif lledaenodd y defnydd o hoyw fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair Saesneg gay, sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at hoyw; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae hoyw wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,[3] gydag hoywon fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod hoyw yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term lesbiad yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir hoyw a hoywon i ddisgrifio dynion yn unig (gweler terminoleg cyfunrywioldeb). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair hoyw i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft priodas hoyw, er bod rhai cefnogwyr LHDT yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl ddeurywiol a thrawsryweddol ac yn annog defnyddio cyfunryw yn lle.
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term gay yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. that's so gay ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1901.
- ↑ Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 20 Ebrill, 2008. Chwiliwch y ffeil am "hoyw".
- ↑ Gweler defnydd o'r gair hoyw gan y BBC ([1]), Cynulliad Cenedlaethol Cymru ([2]), Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ([3]), a'r mudiad hawliau LHDT Stonewall ([4]).
- ↑ Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar maes-e o hoyw fel gair sarhaus. [5]