Sgwrs:Hoyw

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diwygio'r erthygl[golygu cod]

Cynnig newid yr erthygl yma'n sylweddol. Dwi'n teimlo ei fod yn son am y gair Saesneg "Gay" yn hytrach na'r gair Cymraed Hoyw. Mae angen crybwyll yr ystyr newydd, ond hefyd y ffaith ei fod yn darddio o gamgyfieithiad diweddar iawn. Tydi defnyddio'r gair hoyw yn ei ystyr cywir/hanesdyddol ddim yn anghyffredin o gwbl mewn Cymraeg lenyddol. Oes unrhywun yn dweud "mae hwnna mor hoyw" yn sarhaus yn y Gymraeg? Dylai'r frawddeg fod mewn erthygl am fratiaith, nid yma: eto dwi'n meddwl mai yn Saesneg yn unig mae'r mater hwn yn codi go iawn. --Llygad Ebrill 16:58, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Diolch am yr adborth, mae'n flin gen i am gymryd mor hir i ymateb i hyn. Dwi wedi rhoi ymgais ar ehangu'r erthygl i roi mwy o bwyslais ar ddiffiniad(au) gwreiddiol y gair. Croeso i chi neu unrhywun arall ychwanegu mwy ar yr ystyr gwreiddiol, enghreifftiau llenyddol o hoyw, neu fanylion ar sut a phryd yn union y daeth i olygu cyfunrywiol. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:31, 20 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]
Edrych llawer yn well rwan, diolch. --Llygad Ebrill 19:20, 22 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Gwyddoniadur Cymru[golygu cod]

Yn ôl Gwyddoniadur Cymru (yn y cofnod "CYFUNRHYWIAETH"):

Mabwysiadwyd y gair 'hoywon' i ddisgrifio dynion cyfunrhywiol yn y 1980au, efelychiad o'r defnydd o gay a boblogeiddwyd gan Ivor Novello, a gair sydd wedi disodli 'gwrywgydwyr', term yr ystyrir bellach ei fod yr un mor ddifrïol a 'nigar', 'yid' a 'wog'.

Nid wyf yn deall os yw'r frawddeg hon yn dweud y wnaeth Novello boblogeiddio "hoyw" yn yr wythdegau (er iddo farw ym 1951), neu os wnaeth Novello poblogeiddio "gay" (annhebygol iawn; ni allaf ddarganfod unrhyw honiad tebyg ar-lein). Unrhywun yn gallu helpu? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:29, 31 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Yn ôl fy narlleniad i, y gair Saesneg wnaeth Novello ei boblogeiddio. Mae'r dyfyniad yn fy synnu dipyn bach; er iddo chwarae rhan, mae'n anodd i mi gredu ei fod wedi chwarae'r brif ran, fel mae'r dyfyniad yn awgrymu. Garik 14:38, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]