Trygve Lie

Oddi ar Wicipedia
Trygve Lie
Trygve Lie ym 1938.
FfugenwRodney Witherspoon Edit this on Wikidata
GanwydTrygve Halvdan Lie Edit this on Wikidata
16 Gorffennaf 1896 Edit this on Wikidata
Grünerløkka, Oslo Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1968 Edit this on Wikidata
Geilo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Oslo Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, cyfreithegwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Norwy, Foreign Minister of Norway, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Minister of industry, Minister of industry, Minister of Trade and Shipping, Minister of Justice and Public Security, Minister of Trade and Shipping, Q60882640, Aelod o Senedd Norwy, County Governor of Oslo and Akershus Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Norwy Edit this on Wikidata
PriodHjørdis Jørgensen Edit this on Wikidata
PlantSissel Lie Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Uwch Groes Dannebrog, Medal for Outstanding Civic Service, Urdd y Dannebrog Edit this on Wikidata
llofnod

Diplomydd a gwleidydd Norwyaidd oedd Trygve Halvdan Lie (16 Gorffennaf 189630 Rhagfyr 1968) a fu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1952.

Ganed yn Kristiania (bellach Oslo), yn Nheyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy (enillai Norwy ei hannibyniaeth ym 1905). Astudiodd ym Mhrifysgol Kristiania cyn iddo weithio yn gyfreithiwr. Ymunodd â Phlaid Lafur Norwy (yr Arbeiderpartiet). Yn sgil goresgyniad Norwy gan yr Almaen Natsïaidd yn Ebrill 1940, penodwyd Lie yn weinidog tramor y llywodraeth Norwyaidd alltud yn Llundain.

Ar 1 Chwefror 1946, etholwyd Trygve Lie yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, gan olynu Gladwyn Jebb, a fu'n gwasanaethu dros dro yn y swydd honno ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig yn Hydref 1945. Yn ystod ei gyfnod cythryblus yn y swydd, wynebai Lie argyfwng yr Undeb Sofietaidd ac Iran ym 1946, y Rhyfel Arabaidd–Israelaidd ym 1948, a Rhyfel Cyntaf Cashmir (1947–48). Ym 1950, aeth Lie ar daith i brifddinasoedd y pwerau mawr i hyrwyddo'r Cynllun Heddwch Ugain Mlynedd. Dadleuodd yn erbyn ymdrech yr Undeb Sofietaidd i ddiarddel Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) o'r Cenhedloedd Unedig, ac o blaid derbyn Gweriniaeth Pobl Tsieina hefyd yn aelod.

Wedi i luoedd y Cenhedloedd Unedig dderbyn awdurdod i gynorthwyo De Corea yn sgil dechrau Rhyfel Corea ym Mehefin 1950, gwrthwynebwyd Lie yn chwerw gan yr Undeb Sofietaidd. Byddai'r Sofietiaid yn sicr o roi feto ar ailethol Lie, ac o'r herwydd estynnwyd ei dymor yn y swydd am dair blynedd gan y Cynulliad Cyffredinol heb yr angen am etholiad. Gwrthododd yr Undeb Sofietaidd gydnabod Lie, a bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ar 10 Tachwedd 1952.

Gwasanaethodd Lie yn llywodraethwr sirol (fylkesmann) Oslo ac Akershus o 1955 i 1963, yn weinidog diwydiant Norwy o 1963 i 1964, ac yn weinidog masnach Norwy o 1963 i 1965. Bu farw Trygve Lie ym 1968 yn Geilo yn rhanbarth Buskerud, Norwy, yn 72 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Trygve Lie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mehefin 2021.