Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Annie Harriet Hughes
Gwynneth.jpg
Gwyneth Vaughan yn 1904
Ganwyd 1852 Edit this on Wikidata
Talsarnau Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Ebrill 1910 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, awdur Edit this on Wikidata
Plant Arthur Hughes Edit this on Wikidata

Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes (1852 - 25 Ebrill, 1910), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan. Bu'n awdures boblogaidd yn ei chyfnod ac roedd ei gwaith yn gymeradwy gan feirniaid llenyddol fel Owen M. Edwards.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n is-lywydd An Comunn Gaedhealach yr Alban yn 1903 a rhwng 1893-6 sefydlodd dros 143 cangen o'r British Women's Temperance Association, a bu'n ysgrifennydd mygedol y Welsh Union of Women's Liberal Association am 10 mlynedd. Ar ben hyn i gyd roedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch a Chymru Fydd.[1]

Merch o Dalsarnau, Meirionnydd (de Gwynedd bellach) oedd hi. Melinydd oedd ei thad. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol ond tyfodd i fyny mewn cymdeithas wledig ddiwylliedig a oedd yn nwfn yn "Y Pethe" a darllenodd yn eang. Yn 1876 priododd y meddyg John Hughes Jones; yn nes ymlaen gadawsant y "Jones" allan o'r enw a galw eu hunain yn "Hughes" yn unig. Aethant i fyw i Lundain am gyfnod ac wedyn i Dreherbert ym Morgannwg. Gadawyd Annie i ofalu am eu pedwar plentyn ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1902. Symudodd o Dreherbert i Fangor, Gwynedd, a dechreuodd lenydda yn broffesiynol ar anogaeth ei ffrindiau.

Bu farw Gwyneth ym Mhwllheli. Etifeddwyd ei dawn llenyddol gan ei mab, Arthur Hughes (1878-1965), a ymfudodd i'r Wladfa yn 1911 ac a oedd yn olygydd barddoniaeth.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i cofir yn bennaf am y nofelau O Gorlannau'r Defaid (1905) a Phlant y Gorthrwm (1908), a gyhoeddwyd yn gyfresi yn Y Cymro yn wreiddiol cyn cael eu cyhoeddi fel llyfrau. Lleolir y ddwy nofel yng nghefn gwlad Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Diwygiad 1859 yw pwnc O Gorlannau'r Defaid ac etholiad mawr 1868 a'i effaith ar y werin bobl ym Meirionnydd yw cefndir Plant y Gorthrwm.

Barddonai hefyd, a chyfranodd sawl cerdd i gylchgronau fel Cymru O.M. Edwards.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • O Gorlannau'r Defaid (1905)
  • Plant y Gorthrwm (1908)
  • Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (1908)
  • Troad y Rhod (heb ei gorffen; cyhoeddwyd yn rhannol yn Y Brython, 1909)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]