Anne Applebaum

Oddi ar Wicipedia
Anne Applebaum
GanwydAnne Elizabeth Applebaum Edit this on Wikidata
25 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
Man preswylWashington, Warsaw, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, newyddiadurwr, colofnydd, ysgrifennwr, awdur ffeithiol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • The Atlantic
  • Ysgol Astudiaethau Pellach a Rhyngwladol Paul H. Nitz Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGulag: A History, Red Famine: Stalin’s War on Ukraine Edit this on Wikidata
PriodRadosław Sikorski Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Ysgrifennu Ffeithiol, Cyffredinol, Ysgoloriaeth Marshall, Urdd y Dywysoges Olga, 3ydd Dosbarth, Berlin Prize, Officer's Cross of the Order of Merit of the Republic of Poland, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Cundill History Prize, Duff Cooper Prize, Lionel Gelber Prize, Duke of Westminster's Medal for Military Literature, Petőfi Prize, Gwobr Antonovych, Urdd y Dywysoges Olga, ail ddosbarth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.anneapplebaum.com Edit this on Wikidata

Newyddiaduwraig ac awdur yw Elizabeth Anne Applebaum (ganed Washington D.C., 25 Gorffennaf 1964). Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar effaith Comiwnyddiaeth ar gymdeithas yn ystod cyfnod cynnar wedi cwymp comiwnyddiaeth yn 1989 a'r cyfnod wedyn. Mae hefyd yn astudio sut mae mudiadau a llywodraethau unbeniaethol yn gallu meddiannu a chipio'r awenau mewn cymdeithasau ryddfrydig, democrataidd a sifig. Mae hi'n Professor of Practice cymrodol yn y London School of Economics, lle mae'n rhedeg Arena, prosiect ar bropaganda a dad-wybodaeth. Mae wedi bod yn olygydd cylchgronau The Economist a The Spectator ac yn aelod o fwrdd golygydddol papur y Washington Post (2002-2006)

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Astudiodd Hanes a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Yale yn yr UDA gan raddio yn 1986. Enillodd ysgoloriaeth Marshall i astudio ymhellach yn y Ysgol Economeg Llundain lle enillodd MA mewn yn 1987 a Choleg Sant Antony, Prifysgol Rhydychen ac yna yn Warsaw, Gwlad Pwyl yn 1988 fel gohebydd i'r Economist mewn cyfnod o newidiadau anferthol wrth i'r Bloc Sofietaidd ddatgymalu.

Bu'n byw rhwng Llundain a Warsaw yn ystod y 1990au a bu'n golofnydd i bapur newydd y London Evening Standard ers sawl blwyddyn ac yn gyn-olygydd cylchgrawn y Spectator.

Dyfarnwyd llyfr cyntaf Applebaum, Between East and West (1994) wobr Adolph Bentinck yn 1996. Mae'r llyfr yn taflu cip-olwg ar y cwestiwn o newid hunaniaeth ac amgyffred beth yw hunaniaeth mewn ardaloedd a oedd wedi gweld sawl newid i'r ffiniau cenedlaethol ac ymerodraethol yn ystod bywydau nifer fawr o'i thrigolion. Cyhoeddwyd ei hail lyfr, Gulag: A Hstory, yn 2003 a dyfarnwyd iddi Wobr Pulitzer 2004 yng nghateogri llyfr ffeithiol cyffredinol.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganed Applebaum yn Washington D.C. mewn teulu Iddewig ryddfrydol. Mae'n siarad Saesneg, Ffrangeg, Pwyleg a Rwsieg. Priododd â Radek Sikorski, gwleidydd ac ysgrifennwr Pwyleg yn 1992 ac mae ganddynt ddau blentyn: Alexander a Tadeusz. Penodwyd ei gŵr yn Weinidog Amddiffyn Llywodraeth Gwlad Pwyl ar 31 Hydref 2005.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Applebaum, Anne (1994). Between East and West: across the borderlands of Europe. Pantheon Books.

( Gulag: A History, Doubleday, 2003, 677 pages, ISBN 0-7679-0056-1; paperback, Bantam Dell, 2004, 736 pages, ISBN 1-4000-3409-4

  • Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe, 1944–1956, Allen Lane, 2012, 614 pages, ISBN 978-0-713-99868-9 / Doubleday ISBN 978-0-385-51569-6
  • Gulag Voices: An Anthology, Yale University Press, 2011, 224 pages, ISBN 9780300177831; clawr caled
  • From a Polish Country House Kitchen, Chronicle Books, 2012, 288 pages, ISBN 1-452-11055-7; clawr caled
  • Red Famine: Stalin's War on Ukraine, Penguin Randomhouse, 2017

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • 2004 Pulitzer Prize (Cyffredinol; nid ffuglen), Gulag: A History
  • 2012 National Book Award (Nid ffuglen), rownd derfynol, Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe 1944–1956
  • 2013 Cundill Prize, Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe 1944-1956

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]