Al-lâh

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Allāh)
Al-lâh
Enghraifft o'r canlynoltheonym, God in Abrahamic religions Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Enw brodorolالله Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Al-lâh neu Allah (Arabeg: الله) yw enw Duw neu "Arglwydd" yn Arabeg. Cysylltir y term yn bennaf gyda'r syniad Islamaidd o Dduw ym meddwl pobl o wledydd gorllewinol er roedd y term mewn defnydd gan bobl Arabeg gan gynnwys Cristnogion ac eraill yn y cyfnod cyn-Islamaidd (ac ef sy'n dal i fod y gair cyffredin am Dduw yng nghyfieithadau Arabeg y Beibl Cristionogol heddiw). Cywasgiad o'r fannod al a'r enw ilâh "duw".

Y gair Al-lâh mewn ysgrifen Arabaidd

Yn ystod y cyfnod cyn-Islamaidd yn y Dwyrain Canol, yn arbennig yn nheyrnasoedd De Arabia, roedd y syniad o Dduw goruchaf eisoes yn cael ei gynrychioli gan y gair Al-lâh (enw gwrywaidd yw al-lâh ond ceid hefyd y gair benywaidd al-lâaha neu al-Lât); roedd yno duw Arabaidd o'r un enw hefyd. Ceir yr enw Al-lâh yn y ffurf Semitaidd HLH mewn arysgrifau o Balesteina sy'n dyddio o'r 5fed ganrif CC. Fe'i ceir hefyd yn y ffurf Hal-lâh mewn arysgrif o Saffa yn Yemen o'r ganrif 1af a hefyd mewn arysgrif Gristionogol o Umm al-Jima yn Syria o'r 7g. Addolwyd Hal-lâh ym Mecca fel un o dduwiau llwythol y Qurayshites, llwyth Mohamed. Enw tad Mohamed oedd Abdal-lâh ("mab neu ddisgynnydd Al-lâh"). Fel canlyniad i bregethu Mohamed collodd yr enw Al-lâh bob cysylltiad â'r duw paganaidd lleol a datblygodd i fod yr hyn ydyw heddiw, sef y prif enw ar y Duw goruchaf gyda'r syniad o'i undod a'i unigolrwydd ymhlyg yn hynny; cysyniad a fynegir yng nghymal gyntaf y fformiwla shahâda, sy'n ganolog i Islam ac yn grynodeb o'r gred honno: Lâ Ilaha illâ Al-lâh, "Nid oes duw arall ond Duw."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.