Alexander Crichton

Oddi ar Wicipedia
Alexander Crichton
Ganwyd2 Rhagfyr 1763 Edit this on Wikidata
Newington, Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1856 Edit this on Wikidata
Sevenoaks Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg Edit this on Wikidata
TadAlexander Crichton Edit this on Wikidata
MamBarbara Boyes Edit this on Wikidata
PriodFrances Dodwell Edit this on Wikidata
PlantConstantine Crichton, Lucy Crichton, Alexandrina Crichton, Jessie Harriet Crichton, Mary Crichton, Frances Margaret Crichton, Alexander Crichton Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean Edit this on Wikidata

Meddyg nodedig o'r Deyrnas Unedig oedd Alexander Crichton (2 Rhagfyr 1763 - 4 Mehefin 1856). Meddyg ac awdur Albanaidd ydoedd. Rhwng 1804 a 1819 bu'n feddyg personol i Tsar Alexander I o Rwsia ac i Maria Feodorovna, Ymerodres Dowager, roedd hefyd yn bennaeth ar wasanaethau meddygol yn Rwsia. Cafodd ei eni yn Newington, Caeredin, Y Deyrnas Unedig ac addysgwyd ef ym Mhrifysgol Caeredin. Bu farw yn Sevenoaks[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Crichton yn Newington, Caeredin, yn fab i Alexander Crichton, gwneuthurwr coetsis a Barbara (née Boyes) ei wraig.

Ym mis medi 1800 priododd Frances merch Edward Dodwell, o West Molesey, swydd Surrey, etifedd ystâd yn yr Iwerddon. Bu iddynt bedwar o blant.

Addysg[golygu | golygu cod]

Cafodd ei addysgu yn ysgol y Canongate ac Ysgol Uwchradd Caeredin. Aeth yn brentis i'r llawfeddyg Alexander Wood ym 1779 ac fe fu hefyd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin o 1779 i 1784 gan ddyfod yn aelod o'r Gymdeithas Ffisegol Frenhinol ym 1784. Aeth i Lundain am flwyddyn gan ennill profiad o weithio mewn ysbytai. Graddiodd MD o brifysgol Leiden ym 1785. Gwariodd blwyddyn ym Mharis yn astudio meddyginiaeth cyn mynychu ysbytai clinigol blaenllaw yn Stuttgart, Fienna, Halle, Berlin, Prag, a Göttingen[2].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi dychwelyd i Lundain dechreuodd Crichton gyrfa fel llawfeddyg ac aelod o Gwmni'r Llawfeddygon o 1789 hyd 1791. Ym 1791 daeth yn drwyddedog o Goleg Brenhinol y Ffisegwyr ac yn aelod o Gymdeithas y Ffisegwyr Colegol ym 1792. Bu'n gweithio fel ffisegwr yn Holburn ac yn Ysbyty Westminster. Bu hefyd yn darlithio ar bynciau meddygaeth a chemegol. Ymddiswyddodd o Ysbyty Westminster ym 1801 pan gafodd ei benodi'n ffisigwr i'r Tywysog George, Ddug Caergrawnt.

Ym mis Mai 1803 cafodd Crichton ei ethol yn aelod llythyru tramor o Academi Gwyddorau Rwsia a daeth i sylw teulu brenhinol Rwsia. Cafodd ei wahodd i wasanaethu fel ffisigwr personol Tsar Alexandra I a Maria Feodorovna ei fam. Fel rhan o'i waith ar gyfer y fam frenhines bu'n gwasanaethu fel meddyg yn ei ysbytai i blant amddifad a thlodion sâl. Ym 1807 fe'i hapwyntiwyd yn feddyg cyffredinol adran meddygaeth sifil Rwsia. Fel cydnabyddiaeth am ei ymdrechion wrth ymdrin ag epidemig difrifol o golera yn Nhaleithiau de dwyreiniol y wlad cafodd ei godi'n Marchog Croes Mawr yn Urdd St Vladimir[3].

Ymddeolodd Crichton o'i wasanaeth yn Rwsia ym 1819, gan ddychwelyd am gyfnod byr ym 1820 i drin yr Uchel Dduges Aleksandra Fyodorovna, gwraig Nicholas etifedd yr orsedd. Un o Brwsia, yn wreiddiol oedd yr Uchel Dduges, cafodd Crichton ei godi yn Farchog Croes Mawr yn Urdd yr Eryr Coch gan Frederick William IV Brenin Prwsia ym 1820[4].

Fe wnaed yn Farchog Baglor gan Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig ym 1821 wedi iddo drin ei wraig y Frenhines Caroline bu farw ym 1821. Cafodd pensiwn gan Tsar Nicholas ym 1826 ac fe'i gwnaed yn Farchog Croes Mawr (dosbarth cyntaf) yn Urdd St Anne ym 1830.

Daeareg[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â bod yn feddyg roedd Crichton hefyd yn ddaearegwr nodedig. Fe wnaed yn aelod o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn 1819. Roedd casgliad helaeth o fwynau Crichton yn cynnwys sbesimenau o Siberia, Rwsia, Norwy, Hwngari, yr Almaen, y DU, yr Unol Daleithiau ac India. Cafodd y rhain eu prynu yn ystod ei gyfnod fel meddyg i Alexander I o Rwsia ac yn ystod ei deithiau ledled Ewrop pan oedd yn astudio meddygaeth.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • An Inquiry into the Nature and Origin of Mental Derangement (1798). Un o'r llyfrau cyntaf i ddisgrifio'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n Anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd (ADHD)[5]
  • A Synoptical Table of Diseases (1804)

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, The Grove, Seal, Sevenoaks, Swydd Caint, yn 92 mlwydd oed a chladdwyd ef yn fynwent Norwood.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Enillodd Alexander Crichton y gwobrau canlynol o ganlyniad i'w waith:

  • Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol
  • Marchog Croes Mawr Urdd St Vladimir
  • Marchog Baglor Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
  • Marchog Croes Mawr Urdd yr Eryr Coch
  • Marchog Croes Mawr Urdd St Anne (dosbarth Cyntaf)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Appleby, J. (2004-09-23). Crichton, Sir Alexander (1763–1856), physician and author. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 21 Chwefror 2018
  2. Royal College of Physicians of London Munk's Roll - Lives of the Fellows- Alexander (Sir) Crichton Archifwyd 2015-10-22 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Chwefror 2018
  3. The Royal Society journal of the history of science 22 Mai 1999, Cyfrol 53, rhan 2; R.H Appleby Sir Alexander Crichton, F.R.S. (1763-1856), imperial Russian physician at large
  4. The Royal Society journal of the history of science 1 March 1984 Cyfrol 38, rhif 2 E. M. Tansey The life and works of Sir Alexander Crichton, F. R. S. (1763-1856): a Scottish physician to the Imperial Russian Court
  5. History of ADHD Sir Alexander Crichton adalwyd 22 Chwefror 2018