Alan Lomax

Oddi ar Wicipedia
Alan Lomax
Alan Lomax yn canu'r gitâr yn yr Ŵyl Gerddoriaeth Fynydd yn Asheville, Gogledd Carolina, yn nechrau'r 1940au.
Ganwyd31 Ionawr 1915 Edit this on Wikidata
Austin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 2002 Edit this on Wikidata
Safety Harbor, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St. Mark's School of Texas Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd Edit this on Wikidata
TadJohn Lomax Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Lyttleton Sturz Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres Edit this on Wikidata

Ethnogerddolegydd Americanaidd oedd Alan Lomax (31 Ionawr 191519 Gorffennaf 2002)[1] a gyfrannodd yn helaeth at astudiaethau cerddoriaeth werin Unol Daleithiau America yn yr 20g.

Ganed ef yn Austin, Texas, yn fab i'r astudiwr cerdd a llên gwerin John Lomax. Fe'i anfonwyd i ysgol breifat Choate yn Connecticut, ac astudiodd ym Mhrifysgol Harvard am un flwyddyn cyn penderfynu dychwelyd i Austin ym 1933 i gyflawni ei radd ym Mhrifysgol Texas. Derbyniodd ei radd baglor mewn athroniaeth ym 1936.[2][3]

Ers ei arddegau, bu'n cydweithio â'i dad wrth gasglu cerddoriaeth gwerin. Teithiasant ar draws cefn gwlad yr Unol Daleithiau, yn recordio perfformiadau gan gorau'r efengyl, ffidlwyr Cajwn, cantorion gwlad a'r felan, baledi'r cowbois, jazz yn New Orleans, a cherddoriaeth Tex-Mex, ac hefyd i wledydd y Caribî i recordio calypso, caneuon gwaith, a cherddoriaeth ddefodol fwdw. Cyhoeddodd y tad a'r mab sawl cyfrol: American Ballads and Folk Songs (1934), Negro Folk Songs as Sung by Leadbelly (1936), Cowboy Songs (1937), Our Singing Country (1938), a Folk Songs: USA (1946). Penodwyd John yn guradur yr Archif Canu Gwerin yn Llyfrgell y Gyngres, ac yno penodwyd Alan yn is-gyfarwyddwr ym 1937. Erbyn diwedd y 1930au, recordiodd John ac Alan Lomax uwch na thri mil o ganeuon ar ddisgiau ffonograff, ac hefyd cyfweliadau â nifer o berfformwyr yn siarad am eu bywydau, eu crefft, a'u cymunedau, ac hanesion yr hen ganeuon.

Cynhyrchodd Lomax gyfres radio wythnosol ar bwnc caneuon gwerin Americanaidd, o 1939 i 1940, fel rhan o'r rhaglen addysgol American School of the Air ar orsaf CBS Radio. Rhoddwyd iddo raglen ei hunan, Back Where I Come From. Ym 1948 cyflwynodd On Top of Old Smokey, rhaglen ar orsaf radio MBS. Enillodd Lomax gymrodoriaeth oddi ar Sefydliad Guggenheim i astudio cerddoriaeth werin yng Ngwledydd Prydain, ac aeth i fyw yn Lloegr o 1950 i 1957. Casglodd archif o ganeuon gwerin a chynhyrchodd raglenni radio a theledu ar gyfer y BBC. Teithiodd i'r cyfandir a chasglodd hefyd gerddoriaeth werin yn Sbaen ym 1953–54 ac yn yr Eidal ym 1955. Ar sail ei waith, cyhoeddodd Columbia Records arolwg o gerddoriaeth fyd-eang mewn 18 cyfrol, Columbia World Library of Folk and Primitive Music (1955). Seiliwyd rhediad o bump albwm, dan y teitl Folk Songs of the United States, ar recordiadau Lomax yn Llyfrgell y Gyngres.[3]

Dychwelodd Lomax i'r Unol Daleithiau ym 1957, pan oedd yr adfywiad mewn cerddoriaeth werin yn ffynnu, i rannau mawr o ganlyniad i waith Alan a'i dad. Penodwyd Alan Lomax yn gynghorwr i'r ŵyl werin flynyddol fawr a sefydlwyd yn Newport, Rhode Island, ym 1959. Aeth ar daith drwy'r taleithiau deheuol eto ym 1959–60 i wneud y recordiau stereoffonig cyntaf o gerddoriaeth Americanaidd yn y maes, a chynhyrchwyd 19 o albymau gan gwmnïau Atlantic a Prestige, gan gynnwys y recordiau cyntaf gan Mississippi Fred McDowell, un o feistri blŵs y bryndiroedd. Dychwelodd hefyd i'r Caribî ym 1962, ac yno recordiodd calupsos, emynau chaupai yr Indo-Caribïaid, caneuon gwaith, caneuon plant, a cherddoriaeth y bandiau dur; rhoes rhai o'r recordiau yn archif i Brifysgol India'r Dwyrain. Cyhoeddwyd ei gyfrol The Folk Songs of North America ym 1960, ac Hard-Hitting Songs for Hard-Hit People—casgliad o ganeuon y Dirwasgiad Mawr a'r mudiad llafur—ym 1967.[3]

Penodwyd Lomax yn ymchwilydd cyswllt gan Brifysgol Columbia yn Efrog Newydd ym 1962, ac datblygodd ddulliau "cantometreg" a "choreometreg", systemau i nodiannu cerdd a dawns a chanfod patrymau rhwng y rheiny ac elfennau cymdeithasol. Gweithiodd gyda Phrifysgol Columbia nes iddo symud i Goleg Hunter, hefyd yn Efrog Newydd, ym 1989.[3] Yn y cyfnod hwn, cynhyrchodd rhaglenni teledu a ffilmiau gan gynnwys y ffilm ddogfen The Land Where the Blues Began (1985) a'r gyfres American Patchwork (1991). Gwobrwywyd iddo Fedal Genedlaethol y Celfyddydau ym 1986.[4]

Nid oedd yn hoff o roc gwerin, ac un tro yng Ngŵyl Werin Newport aeth yn daro rhwng Lomax ac Albert Grossman, rheolwr Bob Dylan. Ysgrifennodd hunangofiant o'i deithiau ar draws taleithiau'r de, The Land Where the Blues Began (1993). Bu farw Alan Lomax yn Safety Harbor, Florida, yn 2002 yn 87 oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) John Fordham, "Obituary: Alan Lomax", The Guardian (23 Gorffennaf 2002). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Awst 2023.
  2. (Saesneg) Alan Lomax. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2023.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Saesneg) Jon Pareles, "Alan Lomax, Who Raised Voice Of Folk Music in U.S., Dies at 87", The New York Times (20 Gorffennaf 2002). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Awst 2023.
  4. (Saesneg) "Alan Lomax", National Endowment for the Arts. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Awst 2023.