Ail Ddyfarniad Fienna

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
TelekiCsakySegundoArbitrajeDeViena.jpeg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad 30 Awst 1940 Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Hwngari Hwngari
Baner Rwmania Rwmania
Lleoliad Fienna, Belvedere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map y tiroedd a drosglwyddwyd i Hwngari rhwng 1938-40 gan gynnwys gogledd Transylfania a Trawscarpatia
Cyfnewid tiroedd o blaid Hwngari yn sgil Dyfarniad 1 ac 2 Fienna, 1938-40

Gelwir y dyfarniad ar 30 Awst 1940 lle gorfododd yr Eidal Ffasgaidd a'r Almaen Natsïaidd i Rwmania i drosglwyddo rhan o Transylfania i Hwngari yn Ail Ddyfarniad Fienna ac roedd yn rhan o Gyflafareddiadau Fienna.[1] Bu i'r trosglwyddiad tir adfer peth o diriogaeth Hwngari Fawr a chreu bawd o dir yn rhannu Rwmania bron yn ddwy.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Ail Ddyfarniad Fienna yn rhan o bolisi cyffredinol Hwngari mewn perthynas â gwyrdroi chytuniadau heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Cytundeb Trianon (1920) wedi lleihau tiriogaeth Hwngari yn ddifrifol o'r hyn a oedd unwaith yn deyrnas Hwngari, a dyma miliynau o Hwngariaid yn canfod eu hunain yn byw y tu allan i'r ffiniau cenedlaethol ac o dan lywodraethau oedd yn estron iddynt yn Tsiecoslofacia a Rwmania gan fwyaf a nifer llai yng ngwladwrieth newydd Iwgoslafia.

Yn Nyfarniad Gyntaf Fienna yn 1938-39, trosglwyddwyd tiriogaeth o Tsiecoslofacia i Hwngari - oddi ar Slofacia yn 1938 a Rwthenia Is-Carpatia (rhanbarth fwyaf ddwyreiniol Tsiecoslofacia) yn 1939. Ond daliodd Transylfania (rhanbarth ag iddi fwy o Hwngariad ac a enillwyd gan Rwmania wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhan o Rwmania.

Ym mis Mehefin 1940, pan orfodwyd Rwmania i werthu ei taleithiau dwyreiniol, Bessarabia a Bwcofina i'r Undeb Sofietaidd yn dilyn yr wltimatwm a'r goresgyniad, penderfynodd llywodraeth Budapest, dan arweiniad y Llyngesydd Miklós Horthy, fanteisio ar yr amgylchiadau a bwrw o'r neilltu eu amheuaeth ar bwerau Pwerau'r Echel (Yr Almaen a'r Eidal) i ailgynnau'r mater o adfer tiroedd "coll" yn Rwmania. Gan geisio osgoi agor ffrynt yn y Balcanau lle roedd ganddynt fuddiannau olew, awgrymodd yr Eidal a'r Almaen i'r partïon setlo'r anghydfod drwy drafodaethau uniongyrchol.

Yn unol â dymuniadau'r Almaen, cychwynnodd Rwmania drafodaethau â Hwngari yn Turnu Severin (Hwngareg: Szörényvár) ar 16 Awst 1940.[2] I ddechrau fe hawliodd Hwngari 69,000 km² o diriogaeth gyda 3,803,000 o drigolion, bron i ddwy ran o dair o Rwmania (Transylfania gyfan yn y bôn). Chwalwyd y sgyrsiau ar 24 Awst. Yna cynigiodd llywodraethau’r Almaen a’r Eidal gyflafareddiad, a nodweddir yng nghofnodion Cyngor Coron Rwmania ar 29 Awst fel “cyfathrebiadau terfynol a wnaed gan lywodraethau’r Almaen a’r Eidal.”[2] Derbyniodd y Rwmaniaid hyn, a bu i'r Gweinidogion Tramor Joachim von Ribbentrop o'r Almaen a Galeazzo Ciano o'r Eidal gwrdd ar 30 Awst 1940 ym Mhalas Belvedere yn Fienna. Fe wnaethant leihau hawliadau Hwngari i 43,492 km² gyda phoblogaeth o 2,667,007. Cyfarfu Cyngor Coron Rwmania dros nos ar 30–31 Awst 1940 i dderbyn y cyflafareddiad. Yn y cyfarfod, mynnodd Iuliu Maniu fod y Brenin Carol II yn ymwrthod â'r telerau a bod byddin Rwmania yn gwrthsefyll lluoedd Hwngari yng ngogledd Transylfania. Gwrthodwyd ei alwadau yn bragmataidd.[2]

Y Dyfarniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Rwmania yn 1940, gyda Gogledd Transylfania, a ddyfarnwyd i Hwngari, mewn melyn

Yn dilyn ymgynghoriadau uniongyrchol ag Adolf Hitler, cyhoeddwyd y penderfyniad cyflafareddu ar 30 Awst 1940 ym Mhalas Belvedere yn Fienna gan Weinidog Tramor yr Almaen, Joachim von Ribbentrop a chan yr un Eidalaidd, Galeazzo Ciano. Yna llofnodwyd y ddogfen hefyd gan eu cymheiriaid, Iarll István Csáky ar ran Hwngari a Mihail Manoilescu ar ran Rwmania.

Cyflwynir yr ystadegau poblogaeth yng Ngogledd Transylvania a'r newidiadau yn dilyn y dyfarniad yn fanwl yn yr adran nesaf. Arhosodd gweddill Transylvania, a elwir yn ne Transylfania, gyda 2,274,600 o Rwmaniaid a 363,200 o Hwngariaid.

O ganlyniad i Ail Ddyfarniad Fienna, gorfododd Rwmania ei hun i ddychwelyd gogledd Transylfania i Hwngari, tiriogaeth o 43,492 km² a 2,609,007 o drigolion gan ymestyn Hwngari yn ddwfn fewn i'r Carpatiau i gynnwys yr ardal a boblogwyd gan y Székely. Arhosodd gweddill Transylfania (gyda 400,000 o Hwngariaid eraill) o dan sofraniaeth Rwmania, a chafodd Bucharest warant ffin yr Eidal-Almaenig yn gyfnewid.[3]

O safbwynt demograffig, roedd y tiriogaethau a atodwyd gan Budapest yn cynnwys (yn seiliedig ar ystadegau Rwmania o 1930) 968,371 Hwngariaid (37%), ond hefyd 1,304,898 o Rwmaniaid (50%), a lleiafrifoedd bach o Almaenwyr, Sipsiwn, Slofaciaid, Iwcraniaid ac Armeniaid. Ysgogodd y ffiniau newydd, yr un mor amharchus o egwyddor cenedligrwydd â rhai'r Trianon, lif mudol enfawr i'r ddau gyfeiriad.

Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Torfeydd yn taflu blodau wrth groesawu milwyr Hwngari i Kézdivásárhely (Târgu Secuiesc, Rwmania, heddiw)
Hwngariaid yn rhoi'r salíwt Natsiaidd wrth groesawu milwyr Hwngari

Rhoddwyd 14 diwrnod i Rwmania glirio'r tiriogaethau a neilltuwyd i Hwngari ac ar 5 Medi 1940, croesodd milwyr Hwngari yr hen ffin. Tra bod poblogaeth Magyar yn croesawu’r milwyr fel rhyddhawyr, taflwyd y gymuned Rwmanaidd yn ôl i amseroedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari a gwelsant eu hannibyniaeth yn diflannu. Wrth gyflawni’r gweithrediadau o gymryd meddiant o’r diriogaeth, roedd byddin Hwngari yn gyfrifol am farwolaethau dros 1,000 o sifiliaid, yn enwedig menywod, hen bobl a phlant nad oedd wedi gadael y gwledydd â phoblogaeth Slaf yn bennaf. O safbwynt gwleidyddol, datgelodd Ail Ddyfarniad Fienna freuder y gynghrair Almaenig-Sofietaidd yn 1939 ac amwysedd polisi tramor Hitler. Roedd gwarant yr Almaenwyr o ffiniau newydd Rwmania (gan gynnwys yr un â'r Undeb Sofietaidd) mewn cyferbyniad agored ag Erthygl 3 o Atodiad gyfrinachol Cytundeb Molotov–Ribbentrop, yn ôl yr hyn yr oedd yr Almaen wedi gwarantu "diffyg diddordeb gwleidyddol llwyr" â thiriogaethau de-ddwyrain Ewrop.

Yn bendant, gwanhawyd Rwmania gan ddigwyddiadau haf 1940: roedd adolygiad y ffiniau gyda’r Undeb Sofietaidd wedi adfywio nid yn unig archwaeth Hwngari, ond hefyd rhai Bwlgaria. Mewn gwirionedd, roedd llywodraeth Sofia yn mynnu ar yr un pryd ran o'r Dobrujah, y gwnaeth Bucharest ymgrymu â Chytundeb Craiova ar 7 Medi 1940.

Colled Arall i Rwmani - i Bwlgaria[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y cyfamser, roedd llywodraeth Rwmania wedi cytuno i gais yr Eidal am ddarfyddiadau tiriogaethol i Bwlgaria, cymydog arall wedi'i alinio â'r Almaen. Ar 7 Medi, o dan Gytundeb Craiova, cafodd "Cadrilater" (de Dobrudja) ei roi gan Rwmania i Fwlgaria.

Gwydroi Ail Ddyfarniad Fienna[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth holl gytuniadau 1940 i ben. Adferodd Gytundeb Paris rhwng y Cynghreiriaid a Hwngari y ffiniau a fodolai cyn y Rhyfel (rhwng Hwngari a Rwmania, ond nid rhwng Rwmania a'r Undeb Sofietaidd), gan ddatgan ymhlith pethau eraill (Rhan I, Erthygl 1, Paragraff 2), bod "penderfyniadau cyflafareddiad Fienna ar 30 Awst 1940 yn ddi-rym. Mae'r ffin rhwng Hwngari a Rwmania wedi'i hail-gyfansoddi fel yr oedd ar 1 Ionawr 1938".

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni Allannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Árpád E. Varga, Transylvania's History at Kulturális Innovációs Alapítvány
  2. 2.0 2.1 2.2 Giurescu 2000, tt. 37–39.
  3. Nodyn:Cita web