Dyfarniad Gyntaf Fienna

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Czechoslovakia 1939.SVG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad 2 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Hwngari Hwngari
Baner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
Lleoliad Fienna, Belvedere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adferiad Hwngari a'i thiriogaethau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel ac yn ystod y Ail Ryfel Byd

Roedd Dyfarniad Gyntaf Fienna a gynhaliwyd ym Mhalas Belvedere yn Fienna ar 2 Tachwedd 1938 yn ganlyniad uniongyrchol i Gytundeb München (30 Medi 1938), ac yn gytundeb tiriogaethol y daethpwyd iddo trwy gyfryngu a phwysau gan yr Almaen Natsïaidd rhwng Hwngari ac i Tsiecoslofacia. Newidiodd y Cytundeb y ffiniau rhwng Hwngari a Tsiecoslofacia ar sail dosbarthiad ethnig. Gan hynny, wrthdrowyd peth o golledion a ddioddefodd Hwngari yn Nghytundeb Trianon yn 1920 a amddifadodd Hwngari o tua 70% o'r diriogaeth a reolai drosti fel rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari; tiriogaeth a adnebir weithiau fel Hwngari Fawr.

Roedd Gwobrwyad Gyntaf Fienna ac Ail Ddyfarniad Fienna yn rhan o Gyflafareddiadau Fienna. Nacadwyd y Dyfarniadau gan Gytundeb Paris yn 1947 wedi'r Ail Ryfel Byd.

Hanes cytundeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyngor Hitler[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhaniad Tsiecoslofacia. Dyfarniad Gyntaf Fienna mewn coch

Hyd at Gyflafareddu Fienna, roedd yr Almaen Natsïaidd a'r Eidal ffasgaidd yn chwilio am ffordd ddi-drais i orfodi gwireddu tiriogaethol Hwngari gan wirdroi rhan helaeth o Gytundeb Trianon 1920. Erbyn 1938 roedd yr Almaen Natsïaidd wedi gwirdroi nifer o'r colledion tiriogaethol a orfodwyd arni yng Nghytundeb Versailles gan ennill refferendwm i adennill rhanbarth y Saarland oddi ar dominyddiaeth Ffrainc ar 13 Ionawr 1935, ail-feddiannu'r Rheinland ar 7 Mawrth 1936, ac meddiannu Awstria ar 12 Mawrth 1938 - yr Anschluss.

Yng ngwanwyn 1938, er mwyn osgoi gwrthdaro amhriodol posibl rhwng Hwngari dan reolaeth y Cadfridog Miklós Horthy, ac yn bryderus iawn â cholli'r cyfle i adfer tiriogaethau coll ar ôl y Rhyfel Mawr fel y digwyddodd ym München, a'r Ail Weriniaeth Tsiecoslofacia dan arweiniad Emil Hácha, cynghorodd Hitler i Hwngari a'r hyn oedd yn weddill o Tsiecoslofacia i ddod i gytundeb ar y ffin yn seiliedig ar ethnigrwydd.[1]

'Cyngor' Pwerau'r Echel[golygu | golygu cod y dudalen]

Milwyr Hwngari yn gorymdeithio yn Lučenec

Hawliodd yr Hwngariaid oddi ar Tsiecoslofacia ardal o 14,106 km² gyda 1,356,000 o drigolion, gyda 678,000 ohonynt yn Hwngariaid (60%) a'r gweddill, 553,000 o Slovaks a 125,000 o Rwtheniaid, gyda grwpiau bach o Tsieciaid, Almaenwyr ac Iddewon.[2] Nid oedd Hwngari, o'i rhan, gan na drosglwyddwyd Bratislava (Pozsony yn Hwngareg a sedd prifddinas Hwngari am gyfnod byr yn yr Oes Modern Cynnar) na'r ffaith na chyflawnodd amsugniad llwyr o Rwthenia (a ddigwyddodd y flwyddyn ganlynol yn unig, ar 23 Mawrth 1939, yn Ail Ddyfarniad Fienna). Gwrthowyd hyn gan Tsiecslofacia.

Ym mis Hydref 1938, roedd yn amlwg na fyddai'r ddwy wlad yn gallu dod i gytundeb a phenderfynodd Hitler gyfeirio'r mater at 'gyngor' Pwerau'r Echel - Yr Almaen (gan gynnwys Awstria, bellach) a'r Eidal dan reolaeth Mussolini. Ni gafwyd gwrthwynebwyd gan bwerau'r Gorllewin (Ffrainc a Phrydain). Diffiniodd y cyfaddawd a gyrhaeddwyd ar 2 Tachwedd 1938 gan weinidogion Materion Tramor, yr Almaenwr Joachim von Ribbentrop a Galeazzo Ciano yr Eidal. Byddai'r ffin newydd yn fwy adlewyrchiol o'r terfynau ethnig na hen ffin dan Gytundeb Trianon, a gyda hynny llwyddodd Ciano i gynyddu ychydig ar y diriogaeth a neilltuwyd i Hwngari.[1]

Serch anhapusrwydd Hwngari gyda Gwobr Gyntaf Fienna, bu iddi ennill tiriogaethau â phoblogaeth Magyar yn ne Slofacia a de Trawscarpatia - ardal a adnabwyd i'r Hwngariaid fel "Hwngari Uchaf". Llwyddodd Hwngari i adfer rhai o diriogaethau Slofacia a'r Wcráin heddiw, a gollwyd ganddynt o dan Gytundeb Trianon ar ôl y rhyfel trwy ddiddymu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Canlyniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dirpwywyr Dyfarniad Gyntaf Fienna: František Chvalkovský (Tsiecoslofacia), Galeazzo Ciano (Yr Eidal), Joachim von Ribbentrop (Yr Almaen), Kálmán Kánya (Hwngari)

Roedd yn ofynnol i Tsiecoslofacia ildio'r tiriogaethau yn ne Slofacia a de Carpatia Rwthenia i'r de o'r llinell (ac yn cynnwys trefi) Senec (Szenc), Galanta (Galánta), Vráble (Verebély), Lefis (Léva), Lučenec (Losonc) , Rimavská Sobota (Rimaszombat), Jelšava (Jolsva), Rožnava (Rozsnyó), Košice (Kassa), Michaľany (Szentmihályfalva), Veľké Kapušany (Nagykapos), Uzhhorod (Ungvvo), a Muzia). Collodd Slofacia 10,390 km² gyda 854,277 o drigolion [3] - 503,980 o Hwngariaid (58,99%), 272,145 o Slofaciaid neu Tsieciaid (32,43%), 26,151 o Iddewon (3,06%), 8,947 o Almaenwyr (1,05%), 1,825 Rwtheniaid, 14,617 o ddinasyddion tramor eraill a 26,005[4] (yn ôl cyfrifiad Tsiecoslofacia o 1930). O ystyried y tŵf cyfartalog yn y boblogaeth ers y cyfrifiad diwethaf, mae'n bosibl amcangyfrif cyfanswm maint y boblogaeth ar adeg y cyflafareddiad ar 935,000 o bobl, gyda 300,000 ohonynt yn Slofaciaid a Tsieciaid. Collodd Tsiecoslofacia diriogaeth ychwanegol yn Rwthenia Carpatia.

Ymunodd Slofaciaid yn y diriogaeth "newydd" â'r lleiafrif Slofac oedd yn bresennol yn Hwngari, tra mai dim ond tua 60,000 o Hwngariaid [5] oedd ar ôl yn y rhan o Slofacia nad oedd wedi'i atodi. Nid oedd y ffin newydd yn parchu egwyddor ffiniau ethnig y gofynnodd Hwngari amdani fel "cywiriad anghyfiawnderau Cytundeb Trianon" na chyfrifiad Hwngari o 1910. Digwyddodd y troseddau amlycaf o egwyddor ethnig mewn ardaloedd o amgylch Nové Zámky - Vráble-Hurbanovo, yr ardal o amgylch Jelšava a'r ardal o amgylch Košice. Dim ond 8 o 79 o bentrefi o amgylch Košice oedd â phoblogaeth fwyafrifol Hwngari, [5] wrth ymyl 42,245 Slofaciaid yn Košice. Collodd Tsiecoslofacia'r cysylltiad rheilffordd uniongyrchol â Rwthenia Carpatia ac i Rwmania.

Cymerodd Jozef Tiso (un o ddirprwyaeth Tsiecoslofacia a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd Slofacia annibynnol dan oruchwiliaeth y Natsiaid) y canlyniad fel methiant personol yn enwedig gan nad oedd wedi trefnu gwacáu Košice. [6] Cyhoeddodd ganlyniadau’r wobr ar y radio yn hwyr gyda’r nos a beio’r llywodraeth ganolog am ei pholisi tymor hir, ond derbyniodd y canlyniad.[7]

Meddiannwyd y tiriogaethau gan fyddin Hwngari, yr honvéd (HwngaregLll: Királyi Honvédség) rhwng 5 a 10 Tachwedd 1938. Ar 11 Tachwedd, aeth Rhaglaw Hwngari, Miklós Horthy, i mewn i'r brif dref, Košice (Kassa).

Ymgorfforwyd diriogaethau "Hwngari Uchaf" (Felvidék yn Hwngareg; llyth.: "Ucheldir") a adferwyd yn Hwngari ar 12 Tachwedd 1938, gan ddeddf gan Senedd Hwngari. Yn dilyn trefn siroedd hynafol Teyrnas Hwngari, rhannwyd y diriogaeth dan feddiant yn ddwy sir newydd gyda seddi yn Nové Zámky a Lefis, tra daeth rhai tiroedd yn rhan o siroedd eraill Hwngari.

Ganol mis Mawrth 1939 cafwyd Ail Ddyfarniad Fienna, lle rhoddodd Adolf Hitler ganiatâd i Hwngari feddiannu gweddill Transcarpatia, i'r gogledd hyd at y ffin â Gwlad Pwyl, a thrwy hynny greu ffin gyffredin rhwng Hwngari a Gwlad Pwyl, gan eu bod yn bodoli cyn y 18g cyn Rhaniadau Gwlad Pwyl.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni Allannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Sakmyster, Thomas L. (1980).Hungary, the Great Powers, and the Danubian Crisis, 1936-1939. p. 214. ISBN 978-0-88033-314-6
  2. Sakmyster, Thomas L. (1980).Hungary, the Great Powers, and the Danubian Crisis, 1936-1939. p. 215. ISBN 978-0-88033-314-6
  3. Deák 2003, t. 9.
  4. Martin Hetényi, Slovensko-mad'arské pomedzie v rokoch 1938 – 1945. Nitra 2008.
  5. 5.0 5.1 Deák 2008, t. 21.
  6. Deák 1998, t. 34.
  7. "Superpowers decided: we cannot do anything but lower our heads and work. However, nobody cannot stop us to say to the whole world that injustice has been committed against the Slovak nation. According to the Trianon dictat only 6% of Hungarians had to live in Slovakia, but according to new borders of Slovakia nearly 20% of Slovaks will live in Hungary." Fabricius 2002, p. 25.