Cyflafareddiadau Fienna
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() ![]() |
Yn cynnwys | Dyfarniad Gyntaf Fienna, Ail Ddyfarniad Fienna ![]() |
![]() |
Mae Cyflafareddiadau Fienna, a elwir hefyd yn Ddyfarniadau Fienna, yn gyfres o ddau ddyfarniad lle ceisiodd yr Almaen Natsiaidd a'r Eidal Ffasgaidd ddelio â galwadau tiriogaethol Hwngari dan ei harweinydd, Miklós Horthy, i ad-ennill peth o'r tiroedd a gollwyd gan Hwngari yng Nghytundeb Trianon yn 1920 gan osgoi rhyfel. Fe wnaethant alluogi Hwngari i feddiannu ardaloedd yn heddychlon yn yr hyn sydd bellach yn Slofacia, Wcrain a Rwmania. Gan hynny gwirdrowyd llawer o golledion Hwngari yn sgil y ffaith i Ymerodraeth Awstria-Hwngari goll'r Rhyfel Byd Cyntaf ac adferwyd peth o'r tirigaeth a feddiannau Hwngari rhwng 1867-1918, a adnebir heddiw yn aml fel Hwngari Fawr.
Cynhaliwyd y ddau set o Gyflafareddau ym Mhalas y Schloss Belvedere ger Fienna.
Dyfarniad Gyntaf Fienna[golygu | golygu cod y dudalen]

Arweiniodd Cyflafaredd Gyntaf Fienna at Ddyfarniad Gyntaf Fienna ar 2 Tachwedd 1938, lle cafodd ardaloedd â mwyafrif Hwngareg yn ne Slofacia ac Wcráin Carpatiau (Rwthenia y bryd hynny) eu gwahanu oddi ar Tsiecoslofacia a'u dyfarnu i Hwngari.
Ail Ddyfarniad Fienna[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1940 cafodd Hwngari ran o ogledd Transylfania ac ardaloedd Szatmár/Satu Mare a Máramaros/Maramureș o Rwmania dan bwysau gan yr Almaen er mwyn gallu integreiddio'r boblogaeth Székely Hwngareg eu hiaith, i diriogaeth Hwngari.
Wedi'r Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]
Wedi buddugoliaeth y 'Cynghreiriaid' yn yr Ail Ryfel Byd, bu’n rhaid i Hwngari golli'r ardaloedd hyn eto ym 1947 ar ôl iddi hi (fel Rwmania) gymryd rhan yn yr ymosodiad ar yr Undeb Sofietaidd ar ochr yr Almaen yn 1941. Cyhoeddwyd bod y ddau fesur yn ddi-rym gan y Cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel ac fe'u canslwyd yn ffurfiol yng Nghynhadledd Heddwch Paris ym 1947.
Mae ardaloedd y dyfarniad cyntaf bellach yn perthyn i Slofacia, lle mae'r Magyars (pobl o dras Hwngaraidd) yn dal i fod yn bron i 10% o'r boblogaeth. Arweiniodd hyn at ddial yn erbyn y Magyars yn Tsiecoslofacia, ac fe'i hystyriwyd hyd yn oed yn ddadleoliad llwyr, fel yn achos y lleiafrifoedd Almaeneg eu hiaith. Fel ateb dros dro, cytunodd arweinwyr comiwnyddol Tsiecoslofacia a Hwngari ar gyfnewid poblogaeth ym mis Chwefror 1946. Cafodd tua 70,000 o bobl eu hailsefydlu ar y ddwy ochr. Nid yw'r mater lleiafrifol yno yn rhydd o wrthdaro erbyn yr 21g - fel y mae i'r Slofaciaid yn Hwngari. Yn Transylfania, hefyd, ar wahân i ddadleoliad Rwmaniaid o dras Almaenig, bu ymosodiadau dialgar yn erbyn trigolion Hwngari.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Time magazine, Fascist Edens, 14 Tachwedd 1938 Archifwyd 2013-07-21 yn y Peiriant Wayback.