Afon Ainí

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Afon Aini)
Afon Aini, Sir Meath, Iwerddon
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.63°N 6.64°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Map

Rhed Afon Ainí (River Nanny neu Nanny Water yn Saesneg, Gwyddeleg: An Ainí),[1] o Baile an Cheantaigh (Kentstown) i Fôr Iwerddon yn An Inse (Laytown). Mae'r afon yn adnabyddus am ei physgota brithyll, ac mae ei haber ar y Môr Celtaidd yn hafan i adar sy'n gaeafu.

Cwrs a daeareg[golygu | golygu cod]

Mae'r tirfyrddau helaeth rhwng dyffrynnoedd Boyne ac afon Ainí yn ffurfio cefndeuddwr Afon Ainí.[2] Gorwedd y ffynhonnell i fyny afon An Uaimh/Navan, ger Brannantowns; mae rhai awdurdodau’n disgrifio’r ffynhonnell fel 3km i'r de o An Uaimh,[3] ac mae'n llifo i Baile an Cheantaigh. Mae'n croesi o dan yr N2 ger Baile na Rátha/Balrath, ac yn parhau fwy neu lai yn gyfochrog â'r L1670. Mae ganddi un llednant arwyddocaol, An Camán/Afon Hurley,[4] sy'n ymuno â hi yn Boolies Little. Oddi yno mae afon Ainí yn llifo o'r dwyrain i'r gogledd-ddwyrain, gan ennill dŵr ar y gweundir rhwng An Lochán Mór/Annesbrook a Damhliag. Oddi yno mae'n llifo i'r dwyrain, gan dorri i mewn i ddwy nant rhwng Gaffney a Beaumont, lle mae'n uno eto, gan redeg yn fyr gerllaw'r R150, ac yna'n llifo i'r dwyrain, gan groesi o dan yr M1, gan deithio trwy Dardistown Cross, heibio Rockbellew, ac yn rhedeg yn gyfochrog â'r Ffordd Damhliag ger Baile Iúilián/Julianstown.[5] Ar ôl Baile Iúilián, mae'r afon yn lledu'n sylweddol, i'r aber i'r de o An Inse.[4]

Mae yna hefyd dwmpathau o raean ger ffynhonnell afon Ainí, cefnen o raean tua 3.2km o hyd, yn gymysgedig â cherrig mân calchfaen a tywod haenedig.[6]

O Baile Iύilián, mae ochr Ainí wedi'i nodi gan galchfaen grisialaidd llwyd, gwely trwchus, yn agored i'r wyneb, ac yn gogwyddo tua'r gogledd ar 15 gradd. Mae clogwyni calchfaen hefyd yn agored ar hyd yr afon yn Rock Bellew, er bod y rhain yn lwydlas eu lliw. Mae'r afon yn troelli ger pont Baile an Dairdisigh/Dardistown, eto wrth Ffynnon St. Columbkille, a 0.4km i'r gogledd o'r ffynnon, gan amlygu calchfaen gwastad tebyg i'r rhai a amlygwyd yn Rock Bellew.

Digwyddiadau hanesyddol[golygu | golygu cod]

Yn ôl y chwedl, yn 848, cynghreiriodd Cineadh, arglwydd Cianachta-Breagh, â'r Llychlynwyr a gwrthryfelodd yn erbyn Malachy ac ysbeilio eglwysi a thiriogaethau'r Hy-Niall o An tSionainnAfon Shannon i'r môr; flwyddyn yn ddiweddarach, boddodd pobl Malachy ef yn Ainí (a elwid bryd hynny yn Ainge ), a oedd yn llifo trwy ei etifeddiaeth.[7]

Yn ystod y Gwrthryfel Gwyddelig 1641 ar groesfan Afon Ainí, ymladdwyd Brwydr Baile Iúilián pan orchfygwyd llu cymorth Brenhinwyr Seisnig o Ddulyn ar eu ffordd i dorri'r gwarchae cyntaf ar Droichead Átha gan wrthryfelwyr Gwyddelig.

Yn ystod y Rhyfeloedd Williamite, ar ôl Brwydr y Boyne, enciliodd byddin y Jacobitiaid o'r maes ac anelu am y bont yn Damhliag, i groesi afon Ainí.[8]

Fflora a ffawna[golygu | golygu cod]

Pysgota[golygu | golygu cod]

Yn ôl y chwedl, roedd Sant Padrig wedi melltithio nifer o afonydd Meath, gan gynnwys y Ainí, oherwydd eu diffyg pysgod.[9] Mae'r afon yn gyforiog o frithyllod gwyllt, fodd bynnag, ac yn llawn brithyllod brown, sy'n cyfrif am fwy na hanner y daliad blynyddol. Yr amser brig ar gyfer brithyllod yw mis Mawrth i fis Mai, ac mae ardal pysgota-â-phlu yn unig ger Baile an Bheileogaigh/Bellewstown. Mae sewin hefyd yn gwneud eu ffordd i fyny o'r aber.[5]

Aber[golygu | golygu cod]

Mae'r aber yn ymestyn 2km i 3km ac mae'n safle pwysig ar gyfer adar hirgoes sy'n gaeafu ac mae'n ardal sydd yn cael ei warchod o dan Gyfarwyddeb Adar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ffurfiant ei hun yn gul ac yn gysgodol, gan ddarparu cynefin rhagorol i adar dŵr. Mae corgwtiad aur, piod y môr/saeri, cwtiaid torchog a phibydd y tywod yn cysgodi yno dros y gaeaf. Ymhlith yr adar dŵr preswyl eraill mae gwyddau du , rhostog gynffonfraith, gwylanod cefnddu mwyaf, gwylanod cyffredin, gylfinirod Ewrasiaidd, pibydd y mawn a bilidowcar.[10] Mae gwaddod lleidiog yn effeithio ar sianel yr aber. Mae'n cynnwys morfa heli a dŵr croyw, a rhai ardaloedd o laswelltir gwlyb. Mae'r morfa heli yn fwyaf amlwg yn ochr ddwyreiniol y sianel.Mae llyriad y môr, seren y môr, peiswellt coch, a helys y môr yn tyfu yno. Yn ddyfnach i'r aber, mae cynefinoedd y gors yn cynnal cynffon y gath a'r gellesgen/banner y gors. Mae'r draethlin, tua 500medr ar y llanw isel, yn cynnwys cynefinoedd traeth a rhynglanwol.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "An Ainí/River Nanny". logainm.ie (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-05.
  2. Ireland Geological Survey, Explanation Sheets (H.M. Stationery Office, 1871) p. 6.
  3. Encyclopaedia Londinensis, or, Universal dictionary of arts …, Meath. cyf.14 (1816). Adalwyd 23 Rhagfyr 2015.
  4. 4.0 4.1 4.2 Explore Ireland. River Nanny Estuary and Shore. Adalwyd 23 Rhagfyr 2015.
  5. 5.0 5.1 Peter O'Reilly, Rivers of Ireland: A Flyfisher's Guide (Stackpole Books, 2003), t.226.
  6. Ireland Geological Survey, Explanation Sheets pp. 30–43.
  7. John O'Hanlon, Catechism of Irish history: from earliest events to the death of O'Connell (J. Mullany, 1864) p. 63.
  8. Thomas Bartlett, A Military History of Ireland (Cambridge University Press, 1999), p. 201.
  9. Mary Francis Cusack, The Life of Saint Patrick, Apostle of Ireland )Catholic Pub. Soc., 1869) p. 381.
  10. Ask about Ireland. Nanny. 23 December 2015.