Neidio i'r cynnwys

Damhliag, Sir Meath, Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Damhliag, Sir Meath, Iwerddon
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Uwch y môr34 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.6551°N 6.4166°W Edit this on Wikidata
Map

Tref fechan yn Sir Meath, Iwerddon, yw Damhliag (/dˈlk/; Saesneg: Duleek).

Daw'r enw o'r Gwyddeleg daimh liag, sy'n golygu tŷ o gerrig ac mae'n cyfeirio at eglwys gynnar, sef Eglwys Sant Cianán, ac mae adfeilion ohoni i'w gweld hyd heddiw yn Damhliag.

Yn ôl â chyfrifiad 2022, cyrhaeddodd poblogaeth Damhliag 4,899, cynnydd deublyg ers 2002. Mae'r dref yn 8 km i'r de-orllewin o Droichead Átha/Drogheda, a 35 km i'r gogledd o ganol dinas Dulyn. Mae Damhliag mewn plwyf sifil o'r un enw.[1]

Castell Áth Carn, Swydd Meath, 1820

Dechreuodd Damhliag fel anheddiad mynachaidd Cristnogol cynnar. Sefydlodd Sant Padrig esgobaeth yma tua 450 OC, ac fe'i roddwyd yng ngofal Sant Cianán ar 24 Tachwedd 489. Cafodd y lle ei anrtheithio sawl gwaith gan y Llychlynwyr rhwng 830 a 1149, a chafodd ei ysbeilio hefyd gan y Normaniaid yn 1171. Yn Ebrill 1014 gorweddai cyrff Brian Ború a'i fab dan eu crwys yn Damhliag ar eu ffordd i Ard Mhacha/Armagh. Dywedir mai'r anheddiad mynachlog gwreiddiol yw'r man lle treuliodd Sant Padrig a nifer o gyfoeswyr gyfnod y gaeaf wrth lunio'r Seanchas Mór - y ffurf ysgrifenedig gyntaf o Gyfreithiau Brehon hynafol Iwerddon yn y 5g. Yn ystod y 12g ailgyfansoddwyd y fynachlog wreiddiol fel Abaty'r Santes Fair a gogynhwyswyd Esgobaeth Damhliag gan Esgobaeth Meath.

Sefydlodd Arglwydd Eingl-Normanaidd cyntaf Meath, Hugh de Lacy, faenor ac adeiladu castell mwnt yn Damhliag. Tua 1180 rhoddodd eglwys Sant Cianán, ynghyd â rhai tiroedd, i'r Awstiniaid. Mae mynwent eglwys Eglwys Iwerddon, nad yw bellach yn cael ei defnyddio, yn rhan o safle'r fynachlog gynnar. Ar ochr arall y pentref ar threfdir Fearann na Mainistreach/Abbeyland ger Afon Ainí a Thŷ Damhliag mae adfeilion Plasty San Mihangel. Sefydlwyd y plasty hon tua 1172 gan fynachod Awstinaidd o Landdewi Nant Hoddnu yn Sir Fynwy Cymru; rhoddwyd y tiroedd iddynt gan deulu De Lacy. Mae pedair croes y pentref a phisgwydden ar lawnt y pentref yn ein hatgoffa o gysylltiadau Damhliag â’r frwydr rhwng William III a Iago II ac at aflonyddwch Ewropeaidd ehangach adeg Louis XIV o Ffrainc. Fodd bynnag, codwyd un o'r pedwar, y Wayward Cross, ym 1601 gan Janet Dowdall er cof am ei gŵr, Syr William Bathe o Gastell Áth Carn y tu allan i'r pentref.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, neu'r Argyfwng, tarodd awyrennau bomio'r Almaen y pentref yn ddamweiniol ar 1 Ionawr 1941, gan achosi mân ddifrod heb anafiadau.

Mae Llwybr Treftadaeth Damhlaig yn cwmpasu nifer o safleoedd yng nghanol y pentref ac fe'i "cenhedlwyd fel cyfres o gerrig camu trwy'r pentref" a'i hanes.[3]

Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
19911,718    
19961,731+0.8%
20022,173+25.5%
20063,236+48.9%
20113,988+23.2%
20164,219+5.8%
20224,899+16.1%

Cludiant

[golygu | golygu cod]

Rheilffordd

[golygu | golygu cod]
Pont yn Boolies, Damhliag

Agorwyd gorsaf reilffordd Damhliag ar 1 Awst 1850, fel rhan o'r lein o Droichead Átha i An Uaimh/Navan (ac yn ddiweddarach i An Seanchaisleán/Oldcastle ). Caeodd ar 1 Mehefin 1958.[4] Mae trenau mwyn sinc o Tara Mines i Borthladd Dulyn yn parhau i basio drwy'r orsaf.

Ffordd

[golygu | golygu cod]

Mae Damhliag ar y ffyrdd rhanbarthol R150 a R152. Mae llwybrau rhanbarthol Bus Éireann yn gwasanaethu'r dref o Ddulyn a Droichead Átha.[5]

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]
  • Mick McGowan, chwaraewr dartiau.
  • Keane Barry, chwaraewr dartiau.
  • Syr William Bathe, Castell Athcarne (bu farw 1597)
  • Frederick Smith, derbynnydd Croes Victoria
  • Kate Kennedy (addysgwr), eiriolwr hawliau menywod

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Damhliag/Duleek". Placenames Database of Ireland. Cyrchwyd 28 Ebrill 2024.
  2. Duleek Heritage Trail, Meath Tourism - Ireland, Accommodation, Holidays, Vacations, Golf, Fishing, Castles, Maps
  3. "Stepping Stones to Duleek's Past - Duleek Heritage Trail" (PDF). meathtourism.ie. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Mawrth 2004.
  4. "Duleek station" (PDF). Railscot - Irish Railways. Cyrchwyd 2007-09-05.
  5. "Regional Services by County". Bus Éireann. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2019.