Pibydd y mawn

Oddi ar Wicipedia
Pibydd y mawn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris
Rhywogaeth: C. alpina
Enw deuenwol
Calidris alpina
(Linnaeus, 1758)
Calidris alpina alpina

Mae Pibydd y mawn (Calidris alpina) yn un o aelodau llai teulu'r rhydyddion. Mae'n un o'r rhydyddion mwyaf cyffredin.

Mae Pibydd y Mawn yn nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia o rhan ogleddol Gogledd America. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de. gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop ac Asia yn symud cyn belled ag Affrica a de-ddwyrain Asia, a'r adar sy'n nythu yng Ngogledd America hefyd yn symud tua'r de ac at yr arfordir.

Yn y gaeaf mae Pibydd y mawn yn ymgasglu'n heidiau, weithiau filoedd lawer o adar gyda'i gilydd ac yn bwydo ar lan y môr trwy chwilio yn y mwd am unrhyw anifeiliaid bychain sydd ar gael. Mae'n aderyn gweddol fychan, 17–21 cm o hyd a 32–36 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae'n hawdd ei adnabod, oherwydd fod y bol yn ddu, fel yr aderyn yn y llun. Yn y gaeaf mae'n rhaid bod yn fwy gofalus, gan fod y cefn yn llwyd a'r bol yn wyn, fel nifer o rydyddion eraill tua'r un maint. Mae'r coesau a'r pig yn ddu. Ceir nifer o is-rywogaethau, sy'n gwahaniaethu er enghraifft yn hyd y pig. Wrth hedfan, mae'n dangos llinell wen ar draws yr adenydd.

Mae'n nythu ar lawr ac yn dodwy rhwng dwy a chwech wy. Nifer gymharol fychan sy'n nythu yng Nghymru, weithiau ar lan y môr ond ran amlaf ar yr ucheldiroedd. Yn y gaeaf mae llawer yn heidio i'r traethau, ac fel rheol dyma'r mwyaf cyffredin o'r rhydyddion.