Adeilad y Pierhead

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adeilad y Pierhead
Adeilad y Pierhead, Caerdydd.jpg
Math Adeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Bae Caerdydd Edit this on Wikidata
Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4635°N 3.1634°W Edit this on Wikidata
Manylion
Arddull pensaernïol Yr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Adeilad y Pierhead (a elwir weithiau yn syml yn y Pierhead, er enghraifft ar y wefan swyddogol). Saif ym Mae Caerdydd, gyferbyn ag adeilad y Senedd. Mae'n perthyn i'r Cynulliad Cenedlaethol a ceir arddangosfa am hanes Cymru a gwaith y Cynulliad oddi'i mewn.

Codwyd yr adeilad o 1896 i 1897 i gynlluniau William Frame, pensaer Ardalydd Bute, fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Dociau Bute.[1] (Ailenwyd hwn i Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897.)[2] Fe'i cynlluniwyd yn arddull adfywiedig y Ddadeni Ffrengig gyda briciau coch a terracotta a wnaed gan J. C. Edwards o Acrefair, ger Rhiwabon, Wrecsam.[3] Ar y ffasâd gorllewinol ceir panel terracotta â llong, peiriant rheilffordd, arbeisiau Morgannwg ac Ardalyddion Bute ac arwyddair Cwmni Rheilffordd Caerdydd, WRTH DDŴR A THÂN.[4]

Prynwyd Cwmni Rheilffordd Caerdydd gan Reilffordd Great Western ym 1922; parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd trwy gydol hyn a gwladeiddio'r rheilffyrdd ym 1947. Wedi hynny bu amryw o gyrff gwladol yn ei defnyddio, gan gynnwys Associated British Ports yn y 1970au.[2] Ym 1973 gwerthodd British Rail fecanwaith y cloc i gasglwr yn America; fe'i dychwelwyd i Gaerdydd yn 2005 ac ers 2011 y mae wedi ffurfio rhan o waith celf yn Heol Eglwys Fair gan yr artist Marianne Forrest.[5]

Ym 1998 trosglwyddwyd Adeilad y Pierhead i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[2] Agorodd i'r cyhoedd fel canolfan ymwelwyr y Cynulliad yn 2001 ac fe adnewyddwyd yr arddangosfa yn 2010.[3] Oherwydd y tŵr cloc amlwg cyfeirir at adeilad y Pierhead ambell waith fel "Big Ben Cymru"[2] ac y mae i'w gweld yn y cefndir yn narllediadau newyddion Cymreig y BBC ac HTV.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.  t. 266
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Hanes y Pierhead. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Hannaby, Mark (1 Mawrth 2010). Historic Pierhead building in Cardiff re-opens. BBC. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.
  4. Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries.  t. 50
  5. (Saesneg) Nowaczyk, Wayne (9 November 2011). Historic Pierhead Clock makes timely return to Cardiff. South Wales Echo. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]