Wyrd Sisters

Oddi ar Wicipedia
Wyrd Sisters
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurTerry Pratchett Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 Tachwedd 1988, 1988 Edit this on Wikidata
Genreffantasi Edit this on Wikidata
CyfresDisgfyd, Witches Edit this on Wikidata
CymeriadauGranny Weatherwax, Chrysoprase Edit this on Wikidata
Prif bwncWilliam Shakespeare Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Wyrd Sisters, a'r chweched nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1988. Mae'r llyfr yn ail-gyflwyno cymeriad Granny Weatherwax o nofel gynt yn y gyfres, Equal Rites.

Crynodeb Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r plot yn barodi o Macbeth, mae Wyrd Sisters yn canolbwyntio ar dair gwrach: Granny Weatherwax; Nanny Ogg, matriarch llwyth mawr Ogg, sy'n berchen ar y gath fwyaf ddrygionus yn y byd, (Greebo); a Magrat Garlick, yr wrach iau, sy'n credu'n gadarn mewn gemwaith yr ocwlt, er nad ydyw'n gweithio.

Caiff y Brenin Verence I o Lancre ei lofruddio gan ei gefnder, Duke Felmet, a rhoddir coron a baban y brenin i'r tair gwrach gan forwyn tra'n dianc. Mae'r gwrachod yn rhoi'r plentyn a'r goron i grŵp o actorion sy'n teithio, gan gydnabod y byddai tynged yn dilyn ei gwrs yn y pen draw ac y buasai Tomjon yn tyfu fyny i drechu Duke Felmet.

Ond mae'r deyrnas yn flin ac nid yw eisiau aros 15 mlynedd, felly mae'r gwrachod yn ei symud ymlaen mewn amser. Yn y cyfamser, mae Duke Felmet wedi penderfynu cael drama wedi ei hysgrifennu a'i pherfformio sy'n ffafriol iddo ac mae'n anfon y cellweiriwr i Ankh-Morpork i recriwtio'r grŵp actio y mae Tomjon ynddi, sydd ddim yn teithio bellach.

Yr unig broblem ydy nad oes gan Tomjon yr awydd i fod yn frenin. Yn lwcus, mae'r cellweiriwr yn troi allan i fod yn frawd iddo felly daw ef yn frenin yn ei le.

Mae nifer o gyfeiriadau at Macbeth wedi eu plethu yn y stori, megis y Dug yn ceisio golchi'r gwaed o'i ddwylo trwy'r adeg gan ddefnyddio amryw o offerynnau megis gratur caws. Mae hefyd nifer o barodïau o Shakespeare megis The Dysk theater a Please Yourself.

Mae'r nofel wedi cael ei haddasu yn fersiwn wedi ei hanimeiddio a dramodiad pedwar rhan ar gyfer BBC Radio 4, yn ogystal ag addasiad drama gan Stephen Briggs.

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

Iaith Teitl Ystyr Nodiadau
Bwlgareg Посестрими в занаята Chwiorydd yn y Grefft
Croateg Vile suđenice Tylwythion Teg Ffawd
Tsieceg Soudné sestry
Iseldireg De Plaagzusters Y Chwiorydd Profocio
Estoneg Õed nõiduses Sisters in Witchcraft
Ffinneg Noitasiskokset Chwiorydd-gwrach
Ffrangeg Trois Sœurcières Tri Chwiorydd-gwrach Mae'r teitl yn chwarae ar eiriau: Mae Trois Sorcières yn cyfieithu
fel "Tri Gwrach", ac mae Sœur yn golygu "chwaer".
Almaeneg MacBest MacBest Ar ôl 'Mac Beth' Shakespeare
Groeg Οι Στρίγκλες Y Cecrennod Trawslythreniad: I Striggles. Chwarae ar deitl drama William
Shakespeare, The Taming of the Shrew
Hebraeg אחיות הגורל Chwiorydd Tynged Trawslythreniad: Akhiot HaGoral
Hwngareg Vészbanyák
Islandeg Örlagasystur
Eidaleg Sorellanza stregonesca Chwaeroliaeth Hudol
Norwyeg Sære søstre Chwiorydd Annaearol
Pwyleg Trzy Wiedźmy Tri Gwrach
Portiwgaleg As Três Bruxas Y Tri Gwrach Portiwgal
Portiwgaleg Estranhas Irmãs Chwiorydd Annaearol Brazil
Rwsieg Вещие сестрички Chwiorydd Proffwydol
Serbeg Sestre po metli Chwiorydd mewn Ysgubellau
Sbaeneg Brujerías Dewiniaeth
Swedeg Häxkonster Dewiniaeth
Thai สามแม่มดอลเวง Wyrd Sisters

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]