Terry Pratchett
Oddi ar Wicipedia
Mae Terence David John Pratchett (ganwyd 28 Ebrill, 1948) yn nofelydd o Sais sy'n ysgrifennu yn Saesneg, ond mae tair o'i nofelau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Mae Pratchett yn fwyaf enwog am ei gyfres o lyfrau "Disgfyd" (Discworld yn Saesneg) sydd yn cael hwyl ar hanes, traddodiadau a chonfensiynau chwedlau a llenyddiaeth ffantasi.
Llyfrau sydd wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg [golygu]
- Joni a'r Meirwon (ISBN 086074132X)-- Cyfieithiad Aled P. Jones o Johnny and the Dead
- Dim Ond Ti All Achub y Ddynoliaeth (ISBN 0860741443)-- Cyfieithiad Aled P. Jones o Only You Can Save Mankind
- Lleidr Amser (ISBN 1904357008)-- Cyfieithiad Dyfrig Parri o Thief of Time
