Witchcraft Today

Oddi ar Wicipedia
Witchcraft Today
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGerald Gardner
CyhoeddwrAmrywiol
GwladY Deyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1954 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1954
GenreHanes
Llên gwerin
Wica
Prif bwncWica, llên gwerin Edit this on Wikidata

Llyfr ffeithiol a ysgrifennwyd gan Gerald Gardner ym 1954 ydy Witchcraft Today. Yn y llyfr y mae Gardner yn nodi ei deimladau a'i gredoau parthed hanes ac ymarferion y cwlt gwrachod, gan gynnwys ei honiad am iddo gwrdd â gwrachod go iawn yn y Fforest Newydd yn Lloegr. Y mae'r llyfr hefyd yn ymwneud â'i ddamcaniaeth i Urdd y Deml hefyd ymarfer y grefydd,[1] a'r gred mewn tylwyth teg yn Ewrop yn tarddu o'r pigmïaid a'u bod yn byw ochr yn ochr â chymunedau eraill.[2] Erbyn hyn, un o brif destunau Wica, ynghyd â The Meaning of Witchcraft (1959), ydy'r llyfr hwn.

Yn rhagair Witchcraft Today, ysgrifennodd Gardner:

I have been told by witches in England: "Write and tell people we are not perverts. We are decent people, we only want to be left alone, but there are certain secrets that you mustn't give away." So after some arguments as to exactly what I must not reveal, I am permitted to tell much that has never before been made public concerning their beliefs, their rituals and their reasons for what they do; also to emphasize that neither their present beliefs, rituals nor practices are harmful.

Erbyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi, yr oedd Gardner yn ymarfer Wica ac wedi sefydlu ei gwfen ei hun o'r Cwfen Bricket Wood. Er hynny, ni ddywedai yn ei lyfr ei fod yn rhan o'r grefydd bryd hynny; honnai yn lle ei fod yn "anthropolegydd di-ddiddordeb".[3] Margaret Murray a ysgrifennodd gyflwyniad i'r llyfr; hithau oedd yn un o brif gefnogwyr ar ragdybiaeth y cwlt gwrachod, a hynny drwy ei lyfrau The Witch-Cult in Western Europe a The God of the Witches o'r 1920au a'r 1930au. Yn ei chyflwyniad, ysgrifennai:

Dr Gardner has shown in his book how much of the so-called "witchcraft" is descended from ancient rituals, and has nothing to do with spell-casting and other evil practices, but is the sincere expression of that feeling towards God which is expressed, perhaps more decorously though not more sincerely, by modern Christianity in church services."[4]

Yn y llyfr, honnai Gardner bod bron i naw miliwn o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, gael eu lladd oherwydd yr erlidiau yn erbyn gwrachod yn Ewrop. Tardd y ddamcaniaeth hon gyda Matilda Joslyn Gage yn wreiddiol.[5] Bellach, y mae ysgolheigion yn amcangyfrif bod tua 40,000 a 100,000 a ddienyddiwyd yn enw ymarfer gwrachyddiaeth rhwng tua 1450 a 1750.

Yn y llyfr mae saith llun; un o Gardner, un arall o gylch swynwr yn Amgueddfa Gwrachyddiaeth ac Hudoliaeth, cofeb i'r bobl a ddienyddiwyd yn yr erlidiau yn eu herbyn, dau lun o ystafelloedd yn yr amgueddfa, cerflun o'r duw corniog, a phaentiad o wrach wrywol.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gardner, Witchcraft Today, pennod 6, "How the Little People became Witches, and Concerning the Knights Templar"
  2. Gardner, Witchcraft Today, pennod 5, "The Little People" a pennod 6, "How the Little People Became Witches, and Concerning the Knights Templar"
  3. Gerald Hutton, Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Oxford University Press, 1999), t.206
  4. Murray, Witchcraft Today, cyflwyniad gan Margaret Murray
  5. Gardner, Witchcraft Today, delwedd rhwng t.80 a t.81
  6. Gardner, Witchcraft Today, "List of illustrations"