Urdd y Deml

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sêl Urdd y Deml. Mae'r ddau farchog ar un ceffyl yn symbol o dlodi

Un o'r urddau milwrol Cristnogol oedd Urdd y Deml (Ffrangeg: Ordre du Temple), enw llawn Cyd-filwyr Tlawd Crist a Theml Solomon (Lladin: Pauperes commilitones Christi Templique Solomonici); cyfeirir atynt yn aml fel y Temlyddion.

Sefydlwyd yr Urdd yn dilyn y Groesgad Gyntaf yn 1096, gyda'r bwriad o sicrhau diogelwch y pererinion o Ewrop oedd yn teithio i Jeriwsalem wedi i'r Cristnogion feddiannu'r ddinas yn ystod y Groesgad. Cydnabyddwyd yr Urdd yn swyddogol gan yr Eglwys Gatholig tua 1129, a chynyddodd ei haelodaeth a'i grym yn gyflym. Bu gan farchogion yr Urdd ran amlwg yn y Croesgadau. Heblaw'r marchogion, roedd nifer fawr o aelodau eraill.

Wedi i'r Crisnogion golli Jeriwsalem, dechreuodd cefnogaeth i'r Urdd edwino. Manteisiodd Ffylip IV, brenin Ffrainc, oedd mewn dyled i'r Urdd, ar hyn, a phwysodd ar y Pab, Pab Clement V, i weithredu yn eu herbyn. Yn 1307, cymerwyd llawer o aelodau'r Urdd yn Ffrainc i'r ddalfa. Arteithiwyd llawer ohonynt nes iddynt arwyddo cyffesion, a dienyddiwyd nifer trwy eu llosgi. Yn 1312, cyhoeddodd y Pab fod yr Urdd yn cael ei dirwyn i ben.

Cedwir eu henw yn enw pentref Tredeml yn Sir Benfro.