Charles Cardell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charles Cardell
Charles Cardell.jpg
Ganwyd 1892
Gorllewin Sussex, Lloegr
Galwedigaeth Offeiriad Wicaidd

Wicaid Seisnig a ddechreuodd draddodiad Wica ei hunan oedd Charles Cardell (1892–1977). Roedd ei draddodiad yn wahanol i'r hyn a ymarferwyd gan Gerald Gardner, tad Wica. Seiliwyd traddodiad Cardell ar y Duw Corniog; Atho oedd enw a roddwyd ar y duw hwn ganddo, a gweithiodd Cardell gyda chwfen. Roedd y Cwfen yn cwrdd ar dir ei ystâd yn Surrey fel arfer. Mae traddodiad Cardell yn dal i fodoli drwy Gwfen Atho Raymond Howard. Cardell hefyd oedd y person i fathu'r term Saesneg "Wicca", gan gyfeirio at ei ddilynwyr fel "Wiccens" ac nid y ffurf gyffredin o "Wiccans" (Wiciaid).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Cardell ym 1892, yng Ngorllewin Sussex dan yr enw gwreiddiol Charles Maynard. Ymunodd â Byddin Brydain a gwasanaethodd yn India lle daeth yn uwchgapten. Ar ôl hyn, aeth ef ymlaen i fod yn gonsuriwr llwyfan (gan ddefnyddio'r enw llwyfan Cardi) a hefyd yn seicolegydd proffesiynol, gan ddeilio â phobl â phrofion drwg o'r ocwlt yn benodol yn ystod y 1950au ac 1960au.

Dewiniaeth[golygu]

Pan newidiodd Maynard ei enw i Cardell, ymunodd merch o'r enw Mary Edwards â fe, ac ers y cyfarfod cyntaf, honnont mai siblingiaid yr oeddent. Bu iddynt fyw gyda'i gilydd ar ystâd fawr o'r enw Dumbledene yn Charlwood, Surrey. Yn yr ystâd, dechreuant hwy Dumblecott Magick Productions gan werthu drachtiau a chyfareddau amrywiol.

Cyfarfodydd â gwrachod eraill[golygu]

Roedd Cardell yn gyfeillgar â Gerald Gardner a'i gwfen, ond cawsant ffrae â'i gilydd ym 1958, gan ddyfynnu ceisio cyhoeddusrwydd gormodol Gardner fel y rheswm. Yn fuan ar ôl marwolaeth Gardner ym 1964, cyhoeddodd Cardell bamffled o dan y ffugenw o Rex Nemorensis, gyda'r teitl "Witch". Yn y pamffled, sarheuodd Cardell Gardner a Doreen Valiente, a chynhwysodd e adrannau o Lyfr y Cysgodion Gardneraidd ynddo hefyd.

Ym 1958, cyhoeddodd ef erthygl o'r enw "The Craft of the Wiccens" yng nghylchgrawn Light. Yno, gofynnodd ef i bob ymarferwr diffuant crefyddol gysylltu â fe. Un person a gysylltwyd â fe oedd Doreen Valiente. Dywedodd Cardell a Mary yr oedd eu mam yn wrach, a gadawodd hi ei athamé a'i breichled y gwrachod iddynt. Credodd Valiente y freichled i fod yn debyg i'r rhai a ddefnyddiwyd yn Wica Gardneraidd, a dywedodd hi wrth Dafo "nid ydynt yn defnyddio'r un â ni, ond y mae ganddo ddigon o debygrwydd i fod yn arobryn o'n sylw". Cwrddodd Valiente â nhw yn ystafell ymgynghori Cardell yn Llundain, a dywedodd hi,

They were quite splendidly appointed as a sort of private temple; but when Cardell showed me a bronze tripod which was obviously 19th century and tried to tell me that it had been dug up from the ruins of Pompeii, I became rather unhappy. When he showed me a bronze statue of Thor and tried to tell me that it was of a Celtic horned god. I couldn't help myself pointing out that Thor was not a Celtic god - and then he became rather unhappy.[2]

Cwfen Cardell[golygu]

Yn y 1960au cynnar, cwerylodd y Cardells â'u ffrind, Raymond Howard, a aeth ymlaen i ledaenu Cwfen Atho. Aeth Howard â Cardell i'r llys wedyn, gan ddweud yr anfonodd ef arddelw, a drywanwyd gan nodwydd a drych.

Ym Mawrth 1961, cyhoeddwyd erthygl o'r enw "Witchcraft in the Woods" gan William Hall yn y London Evening News. Ynddi, dywedodd mai tyst i ddefod a berfformiwyd gan ddeuddeg gwrach yn y fforest yr oedd, gan gynnwys Mary Cardell, yn chwarae rhan y Wrach Forwyn a gwisgo clogyn coch, eistedd ar goeden â phum fforch â Charles Cardell, a oedd yn gwisgo clogyn du a addurnwyd â phentagram, gan gastio cylch â chleddyf, chwythu corn a saethu bwa hir. Pen crebachog oedd un o'r eitemau ar yr allor, a pherfformiwyd actau o ddyrchafael i'r awyr.

Dechreuodd y Cardells achos enllibio yn erbyn y papur newyddion, ond yr oeddent yn caniatáu i newyddiadurwyr eraill ddod i weld y ddefod. Dim ond un a dderbyniodd y cynnig, newyddiadurwr y County Post, W. J. Locke. Locke, a dynnwyd lluniau o'r ddefod, a gynhwyswyd cylch yn y tywod, allor garreg â dau gorryn ffug ar bob un ochr, a phen crebachog o'r enw 'Ramoh' (enw crefft Raymond Howard), asgwrn, powlen o ddŵr a phêl grisial.

Ym 1967, cyflwynwyd yr enllib i'r llys. Aeth Doreen Valiente i'r gwrandawiad, oherwydd yr oedd yn chwilfrydig yn y canlyniad. Dywedodd y Cardells yr oedd eu cwmni, Dumblecott Magick Productions, yn gast yn unig i atynnu gwrachod eraill, felly y gallant hwy astudio a datgelu crefydd y wrach Gerald Gardner, a oedd y ddefod a berfformiwyd ganddynt a dystiwyd gan Hall yn rhan o'r cast yn unig. Rheolodd y barnwr yn eu herbyn, a chollont yr achos.

Ym 1968, yr oedd Cardell yn euog o ledaenu sylwadau difenwol ynglŷn â chyfreithwyr y cwmni a gefnogwyd y London Evening News. Tua'r un pryd, cafodd William becyn gan gynnwys pysgodyn prennaidd gyda dim pen ôl, gyda nodyn a ddywedwyd "i William Hall, bron yn newyddiadurwr". Ar ôl gweithgareddau'r llys, yr oedd y Cardells yn doreddig, ac roedd yn rhaid iddynt werthu rhai o'u tiroedd a byw mewn carafán ar un o'u meysydd.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]