Wica Alecsandraidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Wica Alecsandraidd yn draddodiad o Wica, sydd yn grefydd Neo-baganaidd, wedi'i sefydlu gan Alex Sanders (hefyd a elwir "Brenin y Gwrachod"[1]) gyda'i wraig Maxine Sanders yn y 1960au yn y Deyrnas Unedig. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i Wica Gardneraidd, ac fe'i hystyrir i fod y traddodiad mwyaf hysbys o'r grefydd.[2]

Cychwyniadau a hanes[golygu]

Mae'r traddodiad wedi'i seilio'n eang ar Wica Gardneraidd, gan gafodd Sanders hyfforddiant ynddo i'r radd gyntaf,[3] a hefyd yn cynnwys elfennau o hud seremonïol a Chabbala Hermetig, a astudiwyd Sanders ar ei ben ei hun.

Mae enw'r traddodiad yn gyfeiriad i Alex Sanders ac i Lyfrgell Alecsandria, llyfrgell gudd hynafol, a'r oedd yn un o lyfrgelloedd y byd.[4][3] Dewiswyd i gymryd enw'r llyfrgell ar ôl i Sanders ei gweld hi fel ymgais cynnar i ddod â gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle.[5] Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders, Stewart Farrar, i ysgrifennu What Witches Do. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu trwy ein Cwfen alw eu hunain; ar ôl peth ddadlau, penderfynodd ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi. Cyn hynny, roeddwn ni'n hapus iawn i gael ein galw'n Wrachod".[6]

Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys Canada ac Unol Daleithiau America. Mae Encyclopedia Mystica yn dweud "ni chafodd Wica Alecsandraidd byth y poblogrwydd mewn cymhariaeth â Wica Gardneraidd o ganlyniad cyhoeddusrwydd negyddol Sanders. Ers y 1980au, nid oed dim cysylltiad â Sanders ei hun gan gwfennau Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfennau Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".[7]

Cyfeiriadau[golygu]