Dyn Hysbys

Oddi ar Wicipedia
Model o ferch hysbys yn ei thŷ, yn y Museum of Witchcraft, Boscastle.

Dyn Hysbys yw'r enw traddodiadol yn y Gymraeg am gonsuriwr, dewin neu swynwr. Er y gellir ei gymhwyso at berson o'r fath mewn unrhyw ddiwylliant mae'r erthygl hon yn ymwneud â hanes y 'Dyn Hysbys' yng Nghymru.

Mae'n anodd diffinio union swyddogaeth y Dyn Hysbys am fod y dystiolaeth yn amrywio o ardal i ardal ac o oes i oes, ond gellir dweud yn gyffredinol ei fod yn meddu ar allu i amddiffyn pobl ac anifeiliaid rhag swynion maleisus - a fwrid gan wrachod, er enghraifft - ac i ddarogan y dyfodol a gwella afiechydon. Roedd felly yn 'ddewin' ac yn feddyg, yn hyddysg yng nghyfrinachau llysiau rhinweddol.

Mathau o Ddynion Hysbys[golygu | golygu cod]

Ymddengys fod rhai Dynion Hysbys yn perthyn i deuluoedd o ddewiniaid a meddygon gwlad gyda'r grefft wedi ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth; yr enghraifft enwocaf efallai yw Meddygon Myddfai. Cofier fod trosglwyddo crefft o fewn teulu fel hyn yn beth cyffredin mewn meysydd eraill tan yn ddiweddar ac yn enwedig o amlwg yn yr Oesoedd Canol. Cofnodir teulu o'r fath yn ardal Llangurig, Maldwyn.[1]

Ceir dosbarth arall o Ddynion Hysbys a ddysgai eu gwybodaeth yn rhannol neu'n bennaf o lyfrau, gan fenthyg o draddodiadau ocwlt am y Sidydd ac ati sy'n gyffredin i sawl diwylliant gan darddu o'r Aifft a Mesopotamia yn y pen draw, yn ôl pob tebyg. Perthyn i'r dosbarth hwn oedd y 'Doctor' John Harries, Cwrt-y-cadno, ond roedd ef a'i fab Henry yn feddygon gwlad hefyd. Byddai'r ddau yn hysbysebu eu doniau sêr-ddewiniol ar draws Sir Gaerfyrddin ar ddechrau'r 19g trwy ddosbarthu taflenni yn disgrifio eu gwasanaethau, e.e. rhagweld ffawd neu anffawd o briodas arfaethedig.

Gallai pobl fel beirdd a gwŷr eglwysig fod yn Ddynion Hysbys hefyd. Un o'r enwocaf oedd Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd ar droad yr 17g. Roedd rhai o'r beirdd yn gysylltiedig â byd y consuriwr hefyd, fel Huw Llwyd o Gynfal: gelwir craig fawr ger Afon Cynfal yn 'Bwlpud Huw Llwyd' a dywedir ei fod yn mynd yno i gonsurio. Yn y cyd-destun yma, cofier fod gan Gymru'r Oesoedd Canol ei brudwyr — dosbarth o feirdd a ganai gerddi proffwydol gwleidyddol, gan amlaf yn sôn am ddyfodiad y Mab Darogan — er nad oeddynt yn Ddynion Hysbys fel y cyfryw.

Swyddogaeth yn y gymdeithas[golygu | golygu cod]

Yr Abracadabra

Roedd gan y Dyn Hysbys le arbennig yn y gymdeithas. Parhaodd yn rhan ohoni am ganrifoedd ac ni chafodd ei wthio yn llwyr i'r ymylon tan y 19g, diolch yn bennaf i ymosodiadau crefyddwyr, yn enwedig yr Ymneilltuwyr. Yn hanes y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ceir cyfnodau o erledigaeth greulon ar 'wrachod' a 'chonsuriwyr', ond mae hanes Cymru yn eithriad. Fel y noda Kate Bosse Griffiths:

Ni laddwyd yr un Dyn Hysbys yng Nghymru am ei weithgareddau anuniongred; ac ni chafodd yr un wrach ei llosgi na'i boddi.[2]

Diau fod rhai Dynion Hysbys yn barod i fanteisio ar ofnau ac ofergoelion y werin er eu mantais ariannol eu hunain, ond yn gyffredinol roedd gan y Dyn Hysbys swyddogaeth bwysig yn y gymdeithas werinol. Fel 'dewin' roedd yn honni medru rhagweld y dyfodol ac felly ymgynghorai pobl ag ef ynghylch cariad a marwolaeth a phenderfyniadau o bob math. Ond ymddengys mai prif weithgarwch y Dyn Hysbys oedd fel meddyg traddodiadol, yn ceisio gwella cleifion dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd trwy ei wybodaeth o'r llysiau rhinweddol. Byddai'n atgyfnerthu hynny yn aml gyda swynion amddiffynnol, fel rheol ar ffurf rhyw weddi Lladin neu eiriau hud wedi eu hysgrifennu ganddo ar ddarn o bapur. Defnyddiai hefyd yr abracadabra ac arwyddion y Sidydd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Dyn Hysbys.
  2. Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tudalen 7.
  3. Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977). Penodau IV a V.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. H. Davies, Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901).
  • Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]