Duw Corniog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o'r Duw Corniog yn y Museum of Witchcraft yn Boscastle, Cernyw.

Un o ddau brif dduwdod o'r grefydd neo-baganaidd o Wica yw'r Duw Corniog. Mae Wica'n ystyried y duw i gynrychioli ochr wrywaidd diwinyddiaeth. Ymddengys y duw ar sawl ffurf, megis yr Haul.[1]

I Wica, "personoliad egni grym bywyd anifeiliaid a'r gwyllt" yw'r Duw Corniog [2] gyda chysylltiadau ag anialwch, gwrywdod a'r helfa.[3] Dywedodd Doreen Valiente hefyd fod y Duw Corniog yn mynd ag ysbrydion y meirw i'r Isfyd.[4]

Yn Wica, mae cylchred y tymhorau'n symboleiddio'r berthynas rhwng y Duw Corniog a'r Dduwies.[3] Ym misoedd yr hydref a'r gaeaf, mae'r Duw Corniog yn beichiogi'r Dduwies, ac wedyn yn marw, cyn cael ei aileni o groth y Dduwies yn y gwanwyn.[5] Mae ganddo hefyd agweddau gwahanol trwy'r tymhorau, megis Brenin y Gelynnen a Brenin y Dderwen.[3], ac ar Galan Gaeaf er enghraifft, mae e'n marw a cheir defod sy'n canolbwyntio ar farwolaeth. [6]

Ymhlith gwyliau pwysig eraill sy'n perthyn i'r Duw Corniog ceir Imbolc pryd, yn ôl Valiente, mae'r Duw yn arwain yr Helfa Wyllt.[4] Yn Wica Gardneraidd, ceir gweddïau i'r Duw Corniog ar ddiwedd bob un cyfarfod defodol, sy'n cynnwys y llinellau:

Yn enw Merch y Lleuad, a'r Arglwydd Corniog Marw ac Aileni[7]

Gweler hefyd[golygu]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). Hale. 
  2. "Starhawk" in News-Week On-faith [1] 2006
  3. 3.0 3.1 3.2 Barbara Jane Davy, Introduction to Pagan Studies p. 16
  4. 4.0 4.1 Greenwood, Susan. The Nature of Magic p.191
  5. Janet and Stewart Farrar, The Witches' Bible.
  6. Jone SalomonsenEnchanted Feminism p. 190
  7. Magliocco, Sabina Witching Culture p.28


Ddraig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato