Wica Dianigaidd
Oddi ar Wicipedia
Traddodiad, neu enwad, o'r grefydd Neo-baganaidd o Wica yw Wica Dianigaidd, hefyd a elwir Dewiniaeth Dianigaidd a Dewiniaeth Ffeministaidd Dianigaidd,[1] Sefydlwyd gan Zsuzsanna Budapest yn America yn y 1970au, ac mae'n canolbwyntio ar addoli'r Dduwies ac ar ffeministiaeth. Mae'n cyfuno elfennau o Wica Traddodiadol Prydeinig, dewiniaeth werin Eidalaidd a recordiwyd yn y llyfr Aradia, or the Gospel of the Witches gan Charles Leland, gwerthoedd ffeministaidd a defodol, dewiniaeth werin, ac arferiadau iacháu a addysgir oddi wrth ei mam.
Fel arfer, ymarferir Wica Dianigaidd gan gwfennau sydd â gwragedd yn unig.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Falcon River (2004) The Dianic Wiccan Tradition. O WitchVox. Adalwyd 2007-05-23.