Gerald Gardner
Oddi ar Wicipedia
Mae "Scire" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am y llongau tanfor Eidalaidd, gweler Scirè, y llong danfor Eidalaidd.
Am Gerald H. F. Gardner, y mathemategwr, geoffisegwr, ac actifydd cymdeithasol, gweler Gerald Gardner (mathemategwr).
| Gerald Brousseau Gardner | |
|---|---|
| Ganwyd | Mehefin 13 1884 Blundellsands, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr |
| Bu farw | Chwefror 12, 1964 (oed 79) wrth deithio'n ôl i Loegr o Lebanon ar y môr |
| Cenedligrwydd | Saesneg, Prydeinig |
| Enwau eraill | Scire (enw hudol) |
| Yn enwog am | Boblogeiddio Wica |
| Galwedigaeth | Plannwr te; plannwr rwber; swyddog tollfa; Archoffeiriad Wicaidd |
| Crefydd | Wica |
| Priod | Dorothea "Donna" Gardner née Rosedale |
| Rhieni | William Robert Gardner; ??? Gardner |
Gwas sifil Seisnig, a ysgrifennodd weithiau o dan yr "enw hudol" Scire oedd Gerald Brousseau Gardner (13 Mehefin 1884 - 12 Chwefror 1964). Roedd e'n anthropolegwr, yn archeolegwr amaturaidd, yn ysgrifennwr, yn arbenigwr mewn arfau, yn ocwltiwr, ac yn dad i'r grefydd Neo-Baganaidd Wica.
Ym 1954, ysgrifennodd Gardner ei lyfr cyntaf ynglŷn â Dewiniaeth a Wica; llyfr o'r enw Witchcraft Today.
Dywedodd fod Wica yn oroesiad o gwlt y wrach Paganaidd, cyn-Gristnogol. Dechreuodd e'r traddodiad Wica Gardneraidd ei hun yn fuan ar ôl cyhoeddi'i lyfr olaf ynghylch y pwnc.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) GeraldGardner.com adnodd cyfeiriad ar-lein
- (Saesneg) Dogfenni hanesyddol ac adroddiadau'r cyfryngau ynglŷn â Gardner
- (Saesneg) Bywgraffiad o Controverscial.com