Vita Merlini

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd chwedlonol Ladin gan Sieffre o Fynwy sy'n honni adrodd hanes Myrddin yw'r Vita Merlini (Buchedd Myrddin yn Gymraeg).

Cerdd Ladin o 1529 llinell a gyhoeddwyd gan Sieffre tua deng mlynedd ar ôl iddo orffen ei Historia Regum Britanniae enwog yw'r Vita. Dim ond un copi o'r testun sydd wedi goroesi ac ni ddaeth yn adnabyddus fel ei gampwaith ffug hanes, ond mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer datblygiad chwedl Myrddin.

Ymddengys fod Sieffre wedi tynnu ar ffynonellau Cymreig nad oedd yn gwybod amdanynt pan ysgrifennodd yr Historia pan luniodd y Vita. Yn y gerdd ceir hanes Myrddin Wyllt, agwedd ar gymeriad Myrddin sy'n seiliedig ar y traddodiadau sy'n ei gysylltu â'r Hen Ogledd yn hytrach na Chymru a chwedl Myrddin Emrys, dewin Gwrtheyrn. Mae'n bosibl fod y gerdd 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' yn un o ffynonellau'r awdur. Digwydd rhai o'r cyfeiriadau yn y Vita yn 'Yr Afallennau' a'r 'Oianau' yn Llyfr Du Caerfyrddin hefyd.

Mae'r gerdd yn adrodd hanes Guennolus (Gwenddolau) brein yr Alban, Peredurus (Peredur fab Efrog) brenin Gwynedd, Rodarchus (Rhydderch Hael) brenin Cumbria, a Merlinus (Myrddin) brenin Dyfed yn ymladd brwydr fawr. Mae Myrddin yn colli ei bwyll wedyn ac yn mynd i fyw fel dyn gwyllt yng Nghoed Celyddon. Ei wraig yw Guendolena (ffurf ar Gwenddolau efallai). Ar ôl sawl antur daw Telgesinus (Taliesin) i weld Myrddin yn y goedwig lle mae wedi tyfu'n gyfaill i'r anifeiliaid gwyllt i gyd. Yn yr ymgom rhwng y ddau fardd cawn gyfres o ddaroganau a thraethu ar hanes y byd, y Brythoniaid, ffenomenau Natur, ac ati. Disgrifir hefyd yr Insula pomorum (Ynys Afallon) y dugpwyd y brenin Arthur iddi ar ôl Brwydr Camlan.

Ar ddiwedd yr ymddiddan rhyfeddol daw Myrddin yn ôl i'w lawn bwyll ac mae ef a Thaliesin, ynghyd â Ganieda, ail wraig Myrddin, a Maeldinus yn byw yn dedwydd yn y goedwig. Yn olaf ceir cyfres arall o ddaroganau a leferir gan Ganieda.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Sieffre o Fynwy: J. J. Parry (gol. a chyf.), The Vita Merlini (Urbana, Illinois, 1925)
  • A. O. H. Jarman, Sieffre o Fynwy (Gwasg Prifysgol Cymru, 1966), pennod XIV "Y Vita Merlini".

Dolen allanol[golygu]