Ynys Afallon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marwolaeth y brenin Arthur gan E. Byrne-Jones.

Ynys hud yn y gorllewin a gysylltir â chwedlau ynghylch y brenin Arthur yw Ynys Afallon neu Ynys Afallach. Ymddengys fod yr enw yn dod o Historia Regum Britanniae o waith Sieffre o Fynwy. Ceir disgrifiad llawnach o'r ynys yn Vita Merlini Sieffre, lle disgrifir hi fel insula pomorum que fortunata vocatur. Fe'i disgrifir fel gwlad ieuenctid bythol, gwledda a ffrwythlondeb. Dywedir fod naw chwaer yn rheoli'r ynys, gyda Morgen yn ben arnynt. Gellir cymharu'r syniad a Tír na n-Óg y traddodiad Gwyddelig.

Dywedir i Arthur gael ei gludo i Ynys Afallon wedi iddo gael ei glwyfo hyd angau ym Mrwydr Camlan, yn ymladd yn erbyn Medrawd. Yn Brut y Brenhinedd, fersiwn Gymraeg o waith Sieffre, fe'i gelwir yn "Ynys Afallach", gan awgrymu cysylltiad ag Afallach. Efallai mai T. Gwynn Jones a boblogeiddiodd y ffurf "Ynys Afallon" yn ei awdl Ymadawiad Arthur, lle disgrifia'r ynys:

Draw dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
A ddêl i'w phur, rydd awel, a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon,
Ynys Afallon ei hun sy' felly.

Cysylltir Ynys Afallon a Glastonbury yng Ngwlad yr Haf gan William o Malmesbury a chan Gerallt Gymro. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif:

HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA
"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".

Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.