Team Sky
| Sky Professional Cycling Team | ||
| Gwybodaeth y Tîm | ||
|---|---|---|
| Côd UCI | SKY | |
| Sail | ||
| Sefydlwyd | 2009 | |
| Disgyblaeth(au) | Ffordd | |
| Statws | UCI ProTeam (2010–2013)[1] | |
| Beiciau | Pinarello | |
| Personél Allweddol | ||
| Rheolwr Cyffredinol | David Brailsford | |
| Rheolwr y Tîm | Sean Yates | |
|
||
Tîm seiclo proffesiynol Prydeinig yw Team Sky (Cod tîm UCI: SKY), sy'n cystadlu mewn rasus beic ar y ffordd, yn rhyngwladol.[2] Datganwyd crëad y tîm ar 26 Chwefror 2009, a dechreuont gystadlu ym mis Ionawr 2010.
Caiff y tîm ei reoli gan gyfarwyddwr perfformiad British Cycling, David Brailsford. Y prif Directeur Sportif yw'r cyn rasiwr Seisnig, Sean Yates. Ymunodd Marcus Ljungqvist a Steven De Jongh y tîm fel Directeurs Sportif yn 2010, a Nicolas Portal a Servais Knaven yn 2011.[3]
Mae Team Sky yn aneulu i ennill y Tour de France o fewn pum mlynedd.[4] Dyma'r targed diweddaraf, yn hytrach na'r targed cychwynol o greu'r enillydd cyntaf Prydeinig ar gyfer y ras o fewn pum mlynedd.[5]
Mae'r tîm yn seiliedig yn Manceinion, gyda safle logisteg yng Ngwlad Belg a safle gweithredol yn Quarrata, yr Eidal.[6]
Cynnwys |
Nawdd [golygu]
Cyfranodd BSkyB £30 miliwn o nawdd i'r tîm, a byddent yn noddwyr enw'r tîm hyd diwedd 2013.[6] Mae'r tîm hefyd yn derbyn nawdd pellach gan News Corporation a Sky Italia. Pinarello sy'n cyflenwi fframiau a ffyrc y beiciau, y ffram Dogma 60.1. a ddefnyddwyd yn 2010.[7][8][9] Ar 5 Ionawr 2010, datganwyd mai Adidas oedd partner swyddogol dillad ac ategolion y tîm.[10] Mae Gatorade, M&S, Oakley, IG Markets a Jaguar hefyd yn noddwyr.
Rheolaeth y tîm [golygu]
Rheolaeth ar 28 Hydref 2009:[11]
| Swydd | Enw |
|---|---|
| Rheolwr Cyffredinol | |
| Cyfarwyddwr Perfformiad | |
| Seiciatrydd y Tîm | |
| Rheolwr Operations | |
| Rheolwr Tîm | |
| Directeur sportif | |
| Directeur sportif | |
| Directeur sportif | |
| Directeur sportif | |
| Hyfforddwr Rasio | |
| Hyfforddwr Rasio | |
| Hyfforddwr Rasio |
Reidwyr [golygu]
Bwriad gwreiddiol Team Sky oedd i greu sgwad â 25 dyn, â chraidd o reidwyr Prydeinig,[12] ac i fagu'r talent ifanc er mwyn cynhyrchu ennillydd Prydeinig cyntaf y Tour de France o fen pum mlynedd.[13]
Y chwe reidiwr cyntaf i gael eu cadarnhau oedd Geraint Thomas, Steve Cummings, Chris Froome, Russell Downing, Ian Stannard a Peter Kennaugh, a oedd i gyd yn reidwyr Prydeinig.[14] Cyflewyd yr amcan o gadarnhau y byddai'r tîm yn un cystadleuol iawn trwy reidwyr pellach a fyddai'n cael eu arwyddo i'r tîm, gan gynnwys rhai reidwyr o dramor.[6]
Ar 10 Medi 2009, cadarnhawyd y byddai 10 reidiwr ychwanegol yn reidio dros y tîm. Sef Edvald Boasson Hagen, Thomas Löfkvist, Kurt Asle Arvesen, Simon Gerrans, Juan Antonio Flecha, Kjell Carlström, John-Lee Augustyn, Greg Henderson, Lars Petter Nordhaug a Morris Possoni.[15] Bu ychwanegiadau pellach i'r sgwad cyn cychwyn tymor 2010 yn cynnwys Chris Sutton a Bradley Wiggins o dîm Garmin-Slipstream, Michael Barry, a Ben Swift o Team Katusha.[16][17][18]
Tymor 2010 [golygu]
Cafodd y tîm fuddugoliaeth yn eu ras cyntaf, y Cancer Council Helpline Classic yn Adelaide, ras un dydd cyn y Tour Down Under, gyda Greg Henderson a Chris Sutton yn cipio'r safle cyntaf a'r ail.[19]
Ras ProTour cyntaf Team Sky oedd y Tour Down Under ym mis Ionawr 2010.[5] Derbyiodd y tîm safle wild-card ar gyfer Tour de France 2010.[20][21] Gwahoddwyd Team Sky i gystadlu ym mhob un o'r Grand Tours yn 2010.
Pencampwriaethau cenedlaethol [golygu]
2010
Ras Ffordd Prydain — Geraint Thomas
Treial Amser Prydain — Bradley Wiggins
Treial Amser Norwy — Edvald Boasson Hagen
2011
Ras Ffordd Prydain — Bradley Wiggins
Treial Amser Prydain — Bradley Wiggins
Ras Ffordd Ffindir — Kjell Carlström
Treial Amser Norwy — Edvald Boasson Hagen
Aelodau Tîm [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Two events and two teams awarded UCI ProTour licences. Union Cycliste Internationale (18 Medi 2009). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2009.
- ↑ UCI Pro Tour.
- ↑ Steven De Jongh joins Team Sky. Cyclingnews.com. Adalwyd ar 17 Hydref 2009.
- ↑ Facebook: Team Sky.
- ↑ 5.0 5.1 Announcing Team Sky – A Professional British Road Cycling Team. BSkyB (26 Chwefror 2009).
- ↑ 6.0 6.1 6.2 William Fotheringham (26 Chwefror 2009). Sky to sponsor British Tour de France team. The Guardian.
- ↑ Richard Tyler (9 Hydref 2009). Pinarello named as Team Sky bike sponsor. Cyclingnews.com.
- ↑ Sponsors: Pinarello. Team Sky. Adalwyd ar 22 Mawrth 2010.
- ↑ Team Sky show off their Pinarello Dogmas. BikeRadar (11 Rhagfyr 2009).
- ↑ Adam Fraser (5 Ionawr 2010). Adidas unveils apparel partnership with Team Sky. SportsPro Media.
- ↑ Team Sky – As it happens. Cycling Weekly.
- ↑ Team Sky on target. Sky Sports (25 Awst 2009).
- ↑ Sky to nurture young talent. Cyclingnews (31 Rhagfyr 2009).
- ↑ Alex Murray (2009-09-09). Team Sky names the Brit pack.
- ↑ More stars for Team Sky. Sky Sports (10 Medi 2009).
- ↑ Les Clarke (23 Hydref 2009). Sutton's Sky switch makes good sense. Cyclingnews.com.
- ↑ Jonathan Turner (10 Rhagfyr 2009). Wiggins signs for Team Sky. Sky Sports.
- ↑ Shane Stokes (4 Ionawr 2010). Swift set to move to Team Sky. Cyclingnews.com.
- ↑ Team Sky make stunning race debut with one-two finish. BBC (17 Ionawr 2010).
- ↑ Tour de France wildcard place awarded to Team Sky. Cycling Weekly (2010-03-30).
- ↑ Stephen Roche: Sky faces steep learning curve. Bikeradar (22 Ebrill 2010).
