Semiramis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Engrafiad Eidalaidd o'r 18fed ganrif sy'n darlunio Semiramis fel Amazon arfog

Yr oedd Semiramis yn frenhines Assyriaidd chwedlonol sy'n cael ei hadnabod hefyd fel Semiramide, Semiramida, neu Shamiram yn Aramaeg.

Mae nifer o chwedlau wedi tyfu o'i chwmpas dros y canrifoedd. Cafwyd sawl ymgais i'w huniaethu ag unigolion go iawn. Weithiau caiff ei huniaethu â'r Frenhines Shammuramat, gwraig Fabilonaidd y Brenin Shamshi-Adad V o Assyria (teyrnasodd 811 – 808 CC), ond nid yw pawb yn derbyn hynny.

Yn y chwedlau amdani a geir yng ngwaith yr awduron clasurol Diodorus Siculus, Junianus Justinus ac eraill, sy'n deillio o gyfeiriadau gan Ctesias o Cnidus yn bennaf, portreadir Semiramis mewn perthynas â'r Brenin Ninus. Tyfodd y chwedlau gwerin amdani yn y Dwyrain Canol, er enghraifft mewn cysylltiad â henebion o darddiad anhysbys neu anghofiedig[1] Gyda threiglad amser daeth pobl i gysylltu enw Semiramis â nifer o henebion a safleodd hynafol ym Mesopotamia a gorllewin Iran, e.e. arysgrif Behistun, gwaith Darius I o Persia.[2] Mae Herodotus yn priodoli iddi'r cloddiau anferth a reolai lif afon Euphrates [3] ac mae'n cofnodi ei enw mewn cysylltiad ag un o byrth enwog dinas Babilon.[4]

Roedd sawl lle ym Medea, gwlad y Mediaid, yn dwyn ei henw yn ddiweddarach, hyd at yr Oesoedd Canol, a hen enw talaith Van (dwyrain Twrci) oedd Shamiramagerd.

Ei hanes yn ôl Diodorus Siculus[golygu]

'Y Bugail yn darganfod y baban Semiramis', gan E. Wallcousins.

Yn ôl y chwedl a adroddir gan Diodorus Siculus, ganwyd Semriamis yn ferch i Derketo, duwies y pysgod, o Ascalon yn Syria, a dyn meidrol. Ond gadwyd y baban gan Derketo ar ei enedigaeth a boddodd ei hun (h.y. dychwelodd i'r afon yr oedd yn dduwies arni). Magwyd yr eneth gan golomenod nes iddi gael ei darganfod a'i magu gan Simmas, bugail y brenin lleol.

Yn nes ymlaen priododd ag Onnes neu Menones, un o gadfridogion y brenin Ninus. Daeth yn rhyfelwraig o fri. Roedd Ninus yn ei edmygu gymaint ar ôl ei gweld hi yn cipio Bactria fel y priododd hi, gan beri i Onnes ladd ei hun.

Cafodd Semiramis a Ninus fab o'r enw Ninyas. Ar ôl i Ninus oresgyn Asia cafodd ei glwyfo'n angeuol gan saeth mewn brwydr. Yna ymddangosodd Semiramis o flaen byddin ei gŵr a thwyllo'r milwyr i gredu mae hi oedd eu mab Ninyas a dilyn ei gorchymyn. Teyrnasodd wedyn fel brenhines ar ran helaeth o Asia. Daeth yn enwog am ei gallu fel llywodraethwr ac ymchwanegodd Ethiopia i'w hymerodraeth. Adferodd dinas hynafol Babilon i'w hen ogoniant a chododd fur anferth o friciau clai i'w hamddiffyn. Fodd bynnag, yn y diwedd cafodd ei lladd gan ei mab Ninyas.

Ceir motiff y pysgod a'r golomen yn y traddodiadau a gysylltir â theml fawr Hierapolis Bambyce (Mabbog), a sefydlwyd gan Semiramis yn ôl Lucian, lle roedd cerflun ohoni gyda cholomen uwch ei phen.[5]

Traddodiadau eraill a chyfeiriadau llenyddol[golygu]

Yn chwedloniaeth Armenia portreadir Semiramis fel hwran sy'n dinsitrio bywyd teuluol. Mae'n bosibl fod hyn yn adwaith Cristnogol i chwedlau a uniaethai Semiramis ag Ishtar neu Astarte, dwy dduwies serch gyda'r golomen yn symbol iddynt. Ceir chwedl werin Armeniaidd sy'n ei chysylltu a'r Brenin chwedlonol Ara Hardd, a cheir cerdd Aremenieg enwog gan y bardd Nairi Zarian am eu carwriaeth. Gwrthododd y brenin gariad Semiramis a chododd y frenhines fyddin i ymosod ar Armenia. Lladdwyd Ara mewn brwydr yn Nyffryn Ararat ond cafodd ei atgyfodi yn fyw gan Semiramis ar ôl iddi weddïo i'r duwiau. Ond yn ôl fersiynau eraill ni lwyddodd hi i'w atgyfodi.

Yn y Divina Commedia, mae Dante yn rhestru Semiramis ochr yn ochr ag Elen o Gaerdroia ymhlith eneidiau'r trachwantus yn Ail Gylch Uffern. Cyfeirir ati, ond dim fel cymeriad yn yr hanes, yn y gerdd Arthuraidd ganoloesol Lanval gan Marie de France.

Mae Semiramis yn gymeriad mewn sawl drama ac opera, e.e. y drasiedi Semiramis gan Voltaire, yr opera Semiramide gan yr Eidalwr Domenico Cimarosa, a'r opera arall o'r un enw gan Rossini. Yng ngwaith y beirdd Rhamantaidd mae Semiramis yn symbol o harddwch eithiradol a nwyd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler Strabo xvi. I. 2, er enghraifft
  2. Diodorus Siculus ii. 3
  3. Herodotus i. 184
  4. Herodotus iii. 155
  5. Lucian, De dea Syria, 14