Morris Williams (Nicander)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y bardd Cymraeg Nicander yw hon. Am enghreifftiau eraill o'r enw personol Nicander, gweler Nicander (gwahaniaethu).

Bardd, emynydd a chyfieithydd oedd Morris Williams, a adnabyddir yn well dan ei enw barddol Nicander (20 Awst, 1809 - 3 Ionawr, 1874). Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghoed Cae Bach, ym mhlwyf Llangybi, Eifionydd, yn yr hen Sir Gaernarfon.

Plentyndod ac addysg[golygu]

Clawr darluniedig "Chwedlau Esop ar Gân" gan Nicander

Cafodd ei addysg gynnar yn Llanystumdwy ac ar ôl gorffen yn yr ysgol aeth yn brentis i saer coed lleol.

Tynnodd ei ddawn farddonol sylw'r beirdd Dewi Wyn o Eifion ac Ieuan Glan Geirionydd. Diolch i'w caredigrwydd cafodd orffen ei addysg yn Ysgol y Brenin, yng Nghaer. Oddi yno aeth i Coleg Yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd a BA yn 1835 ac MA yn 1838. Aeth yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru y flwyddyn ganlynol a gwasanaethodd ynddi am weddill ei oes, yn Nhreffynnon a Bangor i ddechrau ac wedyn yn rheithor Llanrhyddlad, Môn yn 1858, lle bu farw yn 1874.

Y llenor[golygu]

Cofir Nicander yn bennaf am ei gymwynas wrth gyfieithu - neu'n hytrach addasu - nifer o moeschwedlau La Fontaine o'r Ffrangeg i'r Gymraeg. Cawsant eu cyhoeddi yn gyntaf o dro i dro yn Y Traethodydd a'r Cymro; yna cyhoeddwyd hwy yn eu ffurf ddiwygiedig a therfynnol yn Yr Haul o'r flwyddyn 1868 hyd 1874. Cyhoeddodd W. Glynn Williams, mab Nicander, destun diwygiedig yn 1901, dan y teitl camarweiniol braidd Damhegion Esop ar Gân.

Enillodd Nicander y Gadair yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849 am ei awdl Y Greadigaeth (bu helynt am fod un o'r beirniaid, Eben Fardd, eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan William Ambrose (Emrys)).

Mae ei waith crefyddol yn cynnwys cyfieithiad mydryddol newydd o'r Salmau (1850). Ysgrifennai nifer fawr o emynau - ac eithrio William Williams Pantycelyn ceir mwy o emynau Nicander yn y llyfrau emynau Cymraeg na gan unrhyw awdur arall.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Flwyddyn Eglwysig (1843)
  • Llyfr yr Homiliau (1847)
  • Y Psalmwyr (1850)
  • Damhegion Esop ar Gân (Jarvis a Foster, Bangor, 1901). Golygiad ei fab o'i addasiad o chwedlau La Fontaine (sydd yn eu tro wedi'u haddasu o waith Esop).
  • Chwedlau Esop ar Gân (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1959). Detholiad yn y gyfres "Clasuron y Plant", gyda darluniau gan Euros Edwards.